Ofn gan Hywel GriffithsCymharu

Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cymharu

Cerdd arall sy’n trafod y ffaith ein bod yn dieithrio oddi wrth ein gilydd yn y byd modern yw’r englyn Swbwrbia gan Emyr Lewis (Fesul Gair). Mae’r ofn yn amlwg yn y gerdd hon wrth i’r bardd agor yr englyn â’r disgrifiad, Cloi y car rhag y barbariaid. Yn debyg i’r gerdd Ofn gan Hywel Griffiths, carfan ddienw yw’r gelyn yma eto. Y barbariaid yw eu henw yng ngherdd Emyr Lewis a’r rhai mewn grym yng ngherdd Hywel Griffiths.

Mae Emyr Lewis yn ailadrodd y berfenw cloi yn yr englyn er mwyn tynnu sylw at yr hyn y mae llawer ohonom yn ei wneud mewn gwirionedd, sef cloi’r byd allan. Tristwch mawr y mae Emyr Lewis yn ei weld yn hyn oherwydd iddo ef mae cau pobl allan yn gyfystyr â marw. Gwelwn hyn yn ei linell glo drawiadol, cau llenni, colli enaid.

Mae ergyd y gynghanedd groes a sain ymosodol y cytseiniaid c ac ll yn y llinell hon yn dweud. Mae Hywel Griffiths hefyd yn sôn am lenni caeëdig. Serch hynny, ar y darllenydd i agor y llenni led y pen y mae ef yn y gerdd Ofn. Gellir dadlau felly mai cerdd Hywel Griffiths yw’r fwyaf gobeithiol o’r ddwy, a hynny am ei fod yn gorffen trwy gynnig ffordd i ddianc rhag y düwch.