Ofn gan Hywel GriffithsCefndir a chyd-destun

Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Mae cefndir y gerdd hon yn cael ei gyflwyno cyn agor y gerdd gyda’r dyfyniad Terrorism can hit us anywhere from any place. Gordon Brown a ddywedodd y geiriau yma yn 2007 pan oedd yn Brif Weinidog ar Brydain. Ers yr ymosodiadau ar dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd yn 2001 mae gwledydd y Gorllewin wedi bod yn byw dan ofn. Mae’r bardd yn credu bod y Llywodraeth, gyda geiriau fel y rhai uchod, yn gosod amheuaeth ac ofn yn ein meddyliau a pheri i ni fyw mewn byd lle rydym yn edrych dros ein hysgwyddau o hyd.

Delwedd o'r cyn-Brif Weinidog Gordon Brown gyda'r dyfyniad: "Terrorism can hit us anywhere from any place." - 2007

Mae hi’n gerdd gyfoes ac amserol am ein bod yn parhau i fyw mewn byd sy’n ofni terfysgaeth ac mae nifer o bobl yn credu bod dylanwad y cyfryngau a’r Llywodraeth yn gyfrifol am hyn.