Ofn gan Hywel GriffithsTrafod y gerdd

Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Trafod y gerdd

Naws digon a thywyll sydd yn rhan gyntaf y gerdd gyda’r defnydd o eiriau negyddol fel tywyllwch, cysgodion, du a nos. Rhestru sefyllfaoedd ofnus y mae’r bardd, Hywel Griffiths, ar ddechrau’r gerdd er mwyn creu’r ymdeimlad o ofn a phanig. Gyda throsiad effeithiol y llinell gyntaf, Pan fo holl rym tywyllwch dros y byd, mae’n creu awyrgylch o anwybodaeth ac amheuaeth. Mae pŵer tywyll yn ddelwedd flaenllaw yn yr wythawd agoriadol. Trwy’r gair sgrin rydym yn cael ein hatgoffa o bŵer y ac yn cael ein hannog i gwestiynu pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth sy’n ein cyrraedd o hyd.

Mae’r bardd yn credu bod ofn ymosodiad terfysgol yn ein caethiwo i’n cartrefi. Yn y cyferbyniadpan fo pob ffrind yn sinistr a blin cawn ein am nad ydym bellach yn troi at ein cyfeillion, hyd yn oed. Rydym yn cloi’r drws ac yn cau’r llenni er mwyn diogelu ein hunain rhag perygl y byd tu allan.

Daw trobwynt y gerdd yn y volta, sef y llinell anweladwy rhwng llinell wyth a naw. Mae’r naws yn newid yn llwyr wrth i ddelweddau du y rhan gyntaf gael eu gan oleuni a gobaith. Trwy gyfrwng y berfau gorchmynnoldiffoddwch, agorwch a chofleidiwch mae’r bardd yn arnom i herio’r drefn a diffodd y teledu neu’r cyfrifiadur ac agor y llenni i weld beth sy’n digwydd y tu allan. Mae’r gorchymyn agorwch lenni’r lolfa led y pen yn ein hannog i edrych ar y byd a pheidio derbyn popeth yn ddi-gwestiwn. Yn y gyffelybiaethfel cyllell wen mae Hywel Griffiths yn gofyn i ni dorri hualau’r ofnau sydd yn cadw pawb yn saff rhag bod yn rhydd.

Mae’r ffaith fod y gyllell yn un wen yn pwysleisio awydd y bardd am ryddid a heddwch.

Set deledu yn dangos rhaglen newyddion, gyda'r pennawd "Diffoddwch y teledu am y tro!" ar y sgrîn.