Swyddogaeth yr aren mewn homeostasisSut mae peiriant dialysis yn gweithio [Uwch]

Mae’r arennau’n rheoli crynodiad y dŵr yn ein gwaed ac yn gweithio i ysgarthu gwastraff gwenwynig. Pan nad ydynt yn gweithio’n iawn, mae angen triniaeth dialysis neu drawsblaniad.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Sut mae peiriant dialysis yn gweithio - Haen uwch yn unig

Diagram yn dangos sut mae peiriant dialysis yn gweithio.
  1. Mae gwaed yn cael ei dynnu o’r claf ac mae’n llifo i’r peiriant dialysis lle mae pilen rhwng y gwaed a hylif dialysis.
  2. Mae’r hylif dialysis yn cynnwys glwcos a halwynau ar yr un crynodiad â phlasma gwaed normal, felly does dim symudiad net glwcos allan o’r gwaed drwy drylediad.
  3. Mae gormodedd halwynau’n tryledu i mewn i’r hylif dialysis.
  4. Does dim wrea yn yr hylif dialysis, felly mae’r wrea i gyd yn tryledu o’r gwaed i’r hylif dialysis o’r crynodiad uchel yn y gwaed i’r crynodiad is yn yr hylif dialysis.
  5. Mae’r gwaed a’r hylif dialysis yn symud i’r cyfeiriadau dirgroes ar draws y bilen () er mwyn cynnal graddiannau crynodiad yr holl ffordd ar hyd y bilen.
  6. Mae’r gwaed glân yn dychwelyd i’r claf ac rydyn ni’n taflu’r hylif dialysis gwastraff.