Clefyd yr arennau
Mae hi’n hawdd rhoi diagnosis o rai clefydau drwy brofi troeth.
Mae glwcos yn y troeth yn dynodi bod yr unigolyn yn dioddef o ddiabetes. Mae’r lefelau glwcos yn y gwaed mor uchel, dydy’r aren ddim yn gallu ei adamsugno ac mae’n gadael y corff mewn troeth.
Mae protein yn y troeth yn dynodi niwed yn yr aren, oherwydd fel rheol mae proteinau yn y gwaed yn rhy fawr i fynd i diwbyn y neffronUned hidlo’r aren, sydd hefyd yn cael ei galw’n diwbwl yr aren..
Dialysis
Er mwyn cael gwared ar wrea gwenwynig, a chadw cydbwysedd cywir halwynau a dŵr yn y corff, mae angen i glaf ag arennau sydd ddim yn gweithio’n iawn ei gysylltu ei hun â pheiriant dialysis am lawer o oriau yr wythnos.
Manteision
- Mae’n gallu cadw claf yn fyw wrth iddo aros i ddod o hyd i roddwr addas.
- Does dim angen llawdriniaeth fawr.
Anfanteision
- Mae angen i gleifion reoli eu deiet yn ofalus.
- Mae angen i gleifion eu cysylltu eu hunain â pheiriant dialysis am lawer o oriau bob wythnos.
- Mae peiriannau dialysis yn ddrud iawn.
- Dim ond am gyfnod penodol fydd dialysis yn llwyddiannus.
Trawsblannu arennau
Os yw arennau rhywun yn methu, efallai y caiff drawsblaniad aren. Mae hyn yn golygu cymryd aren iach o roddwr i’w rhoi yn lle’r aren sydd wedi methu. Mae aren y rhoddwr yn cael ei chysylltu’n agos at bledren y claf.
Un o’r prif broblemau â thrawsblannu yw gwrthodMae organ yn cael ei gwrthod os yw system imiwnedd y derbynnydd yn ymosod ar yr organ.. Mae hyn yn golygu bod system imiwnedd y claf sy’n cael yr aren yn adnabod y trawsblaniad fel peth estron ac yn ei ddinistrio, felly mae hi’n hanfodol bod unrhyw aren sy’n cael ei thrawsblannu mor debyg â phosibl i math o feinweY math o antigenau sydd ar arwyneb celloedd y corff. y claf.
Aelodau teulu sydd fwyaf tebygol o fod â math o feinwe tebyg, ac yn yr achosion hyn mae trawsblaniad byw yn gallu digwydd. Fodd bynnag, bydd rhaid i’r claf ddal i gymryd cyffur atal imiwneddCyffuriau sy’n atal y system imiwnedd rhag ymosod ar organ wedi’i thrawsblannu. am weddill ei fywyd.
Manteision
- Ar ôl i’r trawsblaniad ddigwydd, does dim cyfyngiadau ar ddeiet y claf.
- Does dim angen dal i dreulio cyfnodau hir yn cael dialysis.
- Er nad yw’n gwella’r claf am oes, fel rheol bydd trawsblaniad aren yn caniatáu i’r claf fyw bywyd mwy llawn am gyfnod hirach na chlaf ar ddialysis.
Anfanteision
- Mae hi’n anodd dod o hyd i organ rhoddwr â math o feinwe sy’n cyfateb i fath y claf.
- Y risg o wrthod yr organ.
- Gorfod cymryd cyffuriau sy’n atal y system imiwnedd ac yn golygu bod y claf yn dueddol o ddal clefydau eraill.
- Apwyntiadau rheolaidd â meddyg i ganfod arwyddion o wrthod yr organ.
- Mae angen llawdriniaeth fawr.