Swyddogaeth yr aren mewn homeostasisY neffron - Haen uwch yn unig

Mae’r arennau’n rheoli crynodiad y dŵr yn ein gwaed ac yn gweithio i ysgarthu gwastraff gwenwynig. Pan nad ydynt yn gweithio’n iawn, mae angen triniaeth dialysis neu drawsblaniad.

Part ofBiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Y neffron - Haen uwch yn unig

Neffron aren yn dangos cwpan Bowman, y cwlwm capilarïau, y rhwydwaith capilarïau, tiwbyn, rhydwelïynnau llydan a chul, a'r ddwythell gasglu.

Mae cwpan Bowman (cwpan arennol):

  • yn amgylchynu pelen o , sef y cwlwm capilarïau
  • mae gwasgedd uchel yn cael ei greu yn y cwlwm capilarïau gan bod diamedr y capilari sy’n gadael y cwlwm yn gulach na’r capilari sy’n mynd i mewn
  • mae’r pwysedd hwn yn achosi lle mae dŵr, , , a moleciwlau bach eraill yn mynd allan o’r capilari ac i mewn i’r cwpan Bowman
  • mae proteinau a chelloedd gwaed yn rhy fawr i adael y capilarïau i fynd i mewn i’r tiwbyn

Gweddill y tiwbyn sy’n gyfrifol am adamsugniad detholus glwcos, rhai halwynau, a llawer o’r dŵr.

Y ddwythell gasglu sy’n gyfrifol am adamsugniad detholus dŵr ac am anfon troeth/wrin i’r wreter.