Bywyd ar ôl marwolaethNefoedd ac Uffern

Deall beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu am y bywyd tragwyddol. Sut dylai dynoliaeth fyw er mwyn cyrraedd y Nefoedd? Ar beth mae dynoliaeth yn cael ei barnu? Pam mae'r atgyfodiad ac ewyllys rydd yn bwysig?

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Nefoedd ac Uffern

Dydy Cristnogion ddim yn credu mai marwolaeth y corff corfforol yw'r diwedd. Ar ôl eu hamser ar y Ddaear, maen nhw'n credu y bydd bodau dynol yn cael bywyd ar ôl marwolaeth.

Mae Cristnogion yn credu bod gan bob bod dynol enaid. Maen nhw'n credu bod yr enaid yn rhan anghorfforol o fodau dynol sy'n dal i fyw ar ôl marwolaeth y corff corfforol. Mae llawer yn credu mai'r enaid sy'n parhau i fyw bywyd tragwyddol.

Bydd Duw yn barnu cyfnod pobl ar y Ddaear, a hyn fydd yn penderfynu beth sy'n digwydd i'r enaid ar ôl marwolaeth. Mae'r rhan fwyaf o Gristnogion yn credu y byddan nhw naill ai'n mynd i'r Nefoedd neu i Uffern.

Y Nefoedd

Mae'r Nefoedd yn cael ei ddisgrifio fel ym mhresenoldeb Duw ac mae'n fwy o gyflwr o fodoli na lle ffisegol. Y Nefoedd yw'r prif amcan i bob Cristion, er mwyn i'r enaid gael ei aduno â Duw a'i uno â Christ.

Yn yr Efengylau, mae Crist yn aml yn disgrifio'r Nefoedd ac yn dysgu amdani drwy ddefnyddio damhegion fel yr Hedyn Mwstard a'r Perl.

Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy'n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.
Mathew 13:45-46

Yn yr efengyl yn ôl Ioan, mae Iesu eto'n dweud y dylai dynoliaeth gadw'r ffydd a pheidio â phoeni. Pe na bai'r Nefoedd yn bod, byddai Crist ddim wedi dysgu amdani.

Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi. Fe wyddoch y ffordd i'r lle'r wyf fi'n mynd.
Ioan 14:1-4

Uffern

Gan fod Duw wedi rhoi i fodau dynol, rhaid bod cyfle i bobl wrthod Duw. Dyma yw sail y syniad o .

Yn draddodiadol, mae Uffern wedi cael ei ddisgrifio fel lle o dân tragwyddol sy'n symbol o boen a dioddefaint. Y syniad yw mai dyma sy'n digwydd o ganlyniad i wrthod yr hapusrwydd mae Duw eisiau i bobl ei rannu ag ef. Mae Uffern i’r gwrthwyneb i'r Nefoedd - tragwyddoldeb yn absenoldeb Duw.

Mae y Dyn Cyfoethog a Lasarus (Luc 16:19-21) yn rhoi enghraifft i fodau dynol o beth fydd yn digwydd iddyn nhw ar ôl eu bywyd, gan ddibynnu sut maen nhw wedi byw a thrin pobl eraill. Mae'r ddameg yn rhoi tri rhybudd:

  • peidio ag addoli pethau materol
  • helpu pobl mewn angen
  • gwrando ar y proffwydi

Mae'r ddameg yn rhybuddio y bydd unigolion sydd ddim yn ufuddhau i'r rhain yn mynd i Uffern.

Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef. Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol...
Luc 16:22

Question

Esbonia gredoau Cristnogion mewn bywyd ar ôl marwolaeth.

More guides on this topic