Bywyd ar ôl marwolaethY Farn

Deall beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu am y bywyd tragwyddol. Sut dylai dynoliaeth fyw er mwyn cyrraedd y Nefoedd? Ar beth mae dynoliaeth yn cael ei barnu? Pam mae'r atgyfodiad ac ewyllys rydd yn bwysig?

Part ofAstudiaethau CrefyddolCredoau, dysgeidiaethau ac arferion - Uned 2

Y Farn

Mae llawer o Gristnogion yn credu, ar ôl marwolaeth, y byddan nhw’n mynd i bresenoldeb Duw ac yn cael eu barnu am y pethau maen nhw wedi'u gwneud neu wedi methu â'u gwneud yn ystod eu hoes.

Dydd y Farn

Bydd Dydd y Farn yn dod ar ddiwedd amser. Bydd yr holl ddynoliaeth yn cael eu cyfodi a bydd corff ac pobl yn cael eu haduno. Yma, caiff pawb ei farnu gan Grist fydd wedi dychwelyd yn ei holl ogoniant. Mae'r Efengylau'n adlewyrchu'r ddysgeidiaeth am y farn.

Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith.
Mathew 25:32

Mae Dameg y Rhwyd yn esbonio sut bydd pobl dda a drwg yn cael eu gwahanu ar ddiwedd amser, yn union fel y pysgod yn y rhwyd.

Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn.
Mathew 13:49

Ewyllys rydd

Mae Cristnogion yn credu bod gan yr holl ddynoliaeth ewyllys rydd. Mae hyn yn golygu mai eu cyfrifoldeb nhw yn unig yw unrhyw benderfyniadau maen nhw'n eu gwneud, yn hytrach na bod eu bywyd wedi'i bennu ymlaen llaw ar eu cyfer. Mae gan fodau dynol yr hawl a'r dewis i wneud eu penderfyniadau eu hunain, felly ar Ddydd y Farn, fydd hi ddim yn bosibl i honni bod neb arall yn gyfrifol am y penderfyniadau.

O ganlyniad i'r ewyllys rhydd hwn, mae bodau dynol yn gallu dewis rhwng da a drwg, ac felly'n gallu pechu os ydyn nhw’n dewis gwneud hynny. Mae’r syniad o ewyllys rydd i'w weld yn Genesis pan mae yn cael ei roi i fyw ynddi. Mae Duw yn rhoi un gofyniad iddyn nhw, sef peidio â bwyta'r ffrwyth oddi ar y . Mae Efa yn anufuddhau i'r gorchymyn hwn, ac mae Duw yn cosbi'r cwpl am hyn. Mae Cristnogion yn credu mai dyma'r adeg pan ddaeth pechod i'r byd.

Cyfrifoldeb

Mae Cristnogion yn credu bod cyfrifoldeb ar fodau dynol i ymddwyn mewn ffordd gywir, foesol fel mae'r Beibl yn ei ddisgwyl. Mae hyn yn cynnwys:

  • dilyn rheolau'r Beibl, er enghraifft y Deg Gorchymyn
  • arfer dysgeidiaethau'r Beibl, er enghraifft maddeuant a charedigrwydd

Mae Cristnogion yn credu mai'r mathau hyn o ymddygiad fydd yn cael eu barnu, ac mai'r mathau hyn o ymddygiad fydd yn penderfynu beth sy'n digwydd i bobl yn y bywyd tragwyddol.

Question

Beth mae Cristnogion yn ei olygu wrth y farn?

More guides on this topic