Atgyfodiad
Mae credoau Cristnogol am fywyd ar ôl marwolaeth yn seiliedig ar atgyfodiadY gred Gristnogol fod yr Iesu wedi codi o farw'n fyw ar y trydydd dydd wedi'r croeshoeliad. Credinwyr yn codi o farw'n fyw ar Ddydd y Farn mewn bywyd newydd, neu atgyfodedig. Iesu Grist. Mae Cristnogion yn credu bod marwolaeth ac atgyfodiad Iesu yn rhan o gynllun dwyfol Duw ar gyfer dynoliaeth. Drwy ei farwolaeth ar y groes, mae Iesu'n talu'r gosb am bechodau dynolryw ac yn adfer perthynas dynolryw â Duw. Gwneud iawn yw'r enw ar hyn. Mae Cristnogion yn credu, dri diwrnod ar ôl y croeshoeliad, bod Duw wedi cyfodi Iesu o blith y meirw a'i fod wedi ymddangos unwaith eto i'w ddisgyblion. Ystyr hyn yw bod aberth Iesu yn fuddugoliaeth dros bechod a marwolaeth. Er bod marwolaeth gorfforol yn dal i ddigwydd, bydd pobl sy'n credu yng Nghrist ac yn dilyn ei esiampl yn cael bywyd tragwyddol yn y NefoeddLle neu gyflwr meddwl, sy'n gysylltiedig â Duw a bywyd ar ôl marwolaeth..
Ond, y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn y daeth atgyfodiad y meirw. Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd gwneir pawb yn fyw yng Nghrist.
Dywedodd Iesu wrthi, "Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?"
Dameg y Defaid a'r Geifr
Mae damegStori a adroddwyd gan yr Iesu er mwyn dysgu ac arddangos gwersi ac egwyddorion moesol. y Defaid a'r Geifr i'w gweld yn Mathew 25:31-46. Yn y ddameg, mae Iesu yn defnyddio enghraifft bugail sy'n gwahanu ei ddefaid a'i eifr er mwyn helpu ei ddilynwyr i ddeall sut beth fydd y farn. Mae'n egluro bydd pobl yn cael eu gwahanu fel a ganlyn:
- bydd pobl sydd wedi wedi dilyn esiampl Crist a chredu yn Nuw yn cael eu rhoi ar un ochr i gael lle yn y Nefoedd
- bydd pobl sydd wedi gwrthod credu yn Nuw a phechu yn eu bywydau yn cael eu rhoi ar yr ochr arall i fynd i Uffern