20fed ganrif - plismona cymunedol
Erbyn y 1980au, roedd delwedd yr heddlu wedi dirywio. Cyhuddwyd heddluoedd o hiliaeth yn dilyn nifer o reiadau o ganlyniad i achosion o hiliaeth. Niweidiwyd enw da’r heddlu o ganlyniad i honiadau o ffugio tystiolaeth, defnyddio trais yn erbyn y cyhoedd a bygwth pobl er mwyn eu gorfodi i gyfaddef i drosedd. Roedd y cyhoedd hefyd yn credu bod yr heddlu’n cadw draw wrth bobl yn eu ceir.
Mewn rhai achosion, dechreuwyd cyfeirio at yr heddlu fel ‘moch’. Yn 1981 ysgrifennodd Yr Arglwydd Scarman adroddiad am Reiadau Brixton. Daeth i’r casgliad nad oedd yr heddlu yn gallu uniaethu â phobl, a’u bod wedi colli cefnogaeth y bobl yr oedden nhw'n eu plismona.
Ers hynny, mae’r heddlu wedi mabwysiadu dulliau plismona mwy cymunedol. Mae swyddogion ar y bît neu ar feiciau wedi dychwelyd er mwyn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd. Erbyn hyn mae’r heddlu yn cyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH).

Mae gan yr heddlu hefyd swyddogion sy’n gysylltiedig ag ysgolion er mwyn helpu i addysgu pobl ifanc ynghylch rôl yr heddlu. Yn aml mae’r heddlu yn mynychu cyfarfodydd Gwarchod Cymdogaeth a grwpiau cymunedol lleol.
Effeithiolrwydd plismona modern
Mae’r heddluoedd yn cael eu harolygu’n flynyddol gan Her Majesty's Inspectorate of Constabulary and Fire & Rescue Services - HMICFRS.
Mae pob heddlu yn cael ei archwilio’n flynyddol ac ysgrifennir a chyhoeddir adroddiad am ba mor effeithiol ydyn nhw. Rhoddir targedau i wella i bob heddlu.