Dulliau o ymladd trosedd20fed ganrif - technoleg

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

20fed ganrif - technoleg

Erbyn hyn mae’r heddlu yn defnyddio , camerâu cylch cyfyng (CCTV) ac offer isgoch.

Ers y 1960au defnyddiwyd cyfrifiaduron i storio'r swm anferthol o ddogfennau a gwybodaeth a gasglwyd gan yr heddlu. Mae hynny wedi golygu ei bod hi’n llawer haws erbyn hyn i’r heddlu gwirio, cymharu a chyfnewid gwybodaeth rhwng heddluoedd.

Mae yna Gofnod Cyfrifiadurol Cenedlaethol canolog sy’n cynnwys cronfa ddata o:

  • olion bysedd
  • cofnodion
  • manylion cerbydau
  • gwybodaeth am bobl sydd ar goll

Mae technoleg fforensig wedi arwain at newidiadau mawr yn nulliau’r heddlu.

Roedd cyflwyno technoleg ôl bysedd ar ddiwedd y 19eg ganrif yn galluogi i’r heddlu greu cronfa ddata genedlaethol o gofnodion olion bysedd. Yna byddai swyddogion lleoliad troseddau (SOCO) yn chwilio’r lleoliad am olion bysedd er mwyn helpu i ganfod y troseddwyr. Mae’r heddlu yn cymryd olion bysedd troseddwyr gan ddefnyddio inc, neu’n gynyddol drwy ddefnyddio sganwyr electronig.

Erbyn hyn, mae swyddogion lleoliad troseddau yn archwilio lleoliadau troseddau, y dioddefwyr a dillad y dioddefwyr yn drylwyr er mwyn ceisio canfod gwallt, croen, llwch, dillad, gwaed a hylifau’r corff. Yna maen nhw'n gallu canfod DNA o'r samplau hyn ac yn ceisio paru'r DNA gyda rhai dan amheuaeth.

Mae’r heddlu wedi datblygu cronfa ddata o DNA ac mae cofnodion tua 6 miliwn o bobl wedi’u storio. Mae rhai o’r cofnodion hyn yn perthyn i bobl a ganfuwyd yn ddieuog, neu a ddiystyriwyd mewn ymholiadau. Mae nifer yn ymgyrchu i ddileu eu cofnodion o’r gronfa ddata.