Cwnstabliaid a Gwarchodwyr/Gwylwyr
Cwnstabliaid
Disgwyliwyd i’r Is-gwnstabl gyflawni’r holl brif ddyletswyddau oedd yn gysylltiedig â phlismona lleol:
- cadw trefn ar dafarndai a gwestai
- cadw’r heddwch yn y plwyf
- arestio pobl oedd wedi cyflawni trosedd
- atal troseddau megis tresmasu a photsio
- gweithredu cosbau megis chwipio crwydriaid
- cadw llygaid ar ymddygiad prentisiaid
- chwilio am grwydriaid
Pa mor effeithiol oedd Cwnstabliaid?
Roedd gwaith yr Is-gwnstabl yn ddi-dâl ac roedd yn cael ei wneud yn ychwanegol at waith arferol bob dydd yr unigolion. Roedd hynny’n golygu bod rhai pobl yn amharod i weithio’n galed. Nid oedd yna unrhyw hyfforddiant i Gwnstabliaid ac nid oedd ganddyn nhw lifrai nac arfau.
Roedd rhai pobl yn anhapus ynghylch gorfod cadw llygaid ar ffrindiau a theulu yn y gymuned leol a gorfod eu riportio.
Roedd y rhan fwyaf o’r Cwnstabliaid yn grefftwyr neu ffermwyr yn yr ardal leol. Oherwydd hynny roedden nhw'n adnabod y bobl leol yn dda a byddai ganddyn nhw ychydig o barch yn y gymuned leol.
Gwarchodwyr

Eu gwaith oedd atalRhywbeth sy’n annog rhywun i beidio â gwneud neu bwriadu â gwneud rhywbeth. pobl rhag troseddu. Roedd eu gwaith hefyd yn cynnwys cyhoeddi’r tywydd a faint o’r gloch oedd hi yn ogystal â helpu meddwon fynd adref.
Pa mor effeithiol oedd Gwarchodwyr?
Ychydig iawn o gyflog yr oedd Gwarchodwyr yn ei gael am wneud eu gwaith, felly roedd llawer yn amharod i wneud llawer o ymdrech. Roedd llawer yn cael eu canfod yn cysgu mewn tafarndai ac roedd llawer ohonyn nhw'n hen bobl, oedd yn golygu eu bod nhw’n llai effeithiol.
Cawson nhw eu galw’n Charlies, neu Charleys, ar ôl 1663 pan sefydlodd Siarl II lu o Warchodwyr cyflogedig er mwyn patrolio’r strydoedd ym mhob tref a dinas. Daeth Charlies i fod yn destun sbort, a byddai plant yn ceisio eu pryfocioGwylltio neu wawdio rhywun yn fwriadol. nhw. Yn yr oes Sioraidd, roedd y Charlies yn gynyddol yn defnyddio blychau gwylio, ac roedd y rhain yn dargedau hawdd.