Ymestyn heddluoedd yn y 19eg ganrif
Erbyn dechrau'r 19fed ganrif, roedd mwy a mwy o gefnogaeth i'r syniad o heddlu proffesiynol llawn amser yn cael ei ariannu gan y wladwriaeth. Roedd Syr Robert Peel, yr Ysgrifennydd Cartref, yn cefnogi'r syniad fod y llywodraeth yn dod yn gyfrifol am drefnu plismona. Ond roedd y syniad yn dal yn ddadleuol iawn.
Dadl Peel oedd fod cyfraddau troseddu’n codi, yn enwedig yn y trefi diwydiannol a Llundain, felly roedd angen newid yn y ffordd o blismona. Roedd pobl yn dod i weld mwy a mwy nad oedd y dulliau dal troseddwyr (sef Ynadon Heddwch, Cwnstabliaid a Charlies) yn effeithiol, yn enwedig oherwydd y newidiadau diwydiannol, y newidiadau amaethyddol a'r newidiadau yn y boblogaeth ar y pryd. Roedd twf protest boblogaidd wedi perswadio llawer bod angen heddlu proffesiynol. Fe wnaeth digwyddiadau fel Cyflafan Peterloo yn 1819 ddangos bod gwendidau’n gysylltiedig â dibynnu ar y fyddin i ddelio â phrotestiadau cyhoeddus.
Ond roedd llawer o bobl yn gwrthwynebu’r syniad fod yr heddlu’n cael ei redeg gan y wladwriaeth oherwydd roedden nhw’n credu y byddai’n fygythiad i ryddid. Roedd pobl yn meddwl y byddai'r llywodraeth yn defnyddio’r heddlu i orfodi pobl i wneud yr hyn roedden nhw eisiau. Roedd hyn wedi cael ei weld mewn gwledydd eraill yn Ewrop. Credai pobl y byddai'r heddlu’n busnesu ym mywydau pobl. Ond y prif wrthwynebiad oedd i orfod talu mwy o dreth ar gyfer yr heddlu.
Arweiniodd Ddeddf Heddlu Metropolitan 1829 at sefydlu Heddlu Metropolitan yng nghanol Llundain. Penodwyd dau gomisiynydd i sefydlu a rhedeg yr heddlu newydd. Recriwtiwyd 3,200 o ddynion i fod yn heddlu hyfforddedig a chyflogedig llawn amser. Roedd nifer o’r Cwnstabliaid newydd yn gynfilwyr. Cynyddodd y niferoedd yn gyflym ac erbyn 1882 roedd yna 11,700 o ddynion yn Heddlu Metropolitan.

Fe wnaeth llwyddiant Heddlu Metropolitan arwain at y syniad o ymestyn yr heddlu o fewn Llundain ac ar draws Cymru a Lloegr.
| Deddf | Datblygiad |
| Deddf Corfforaethau Trefol 1835 | Rhoddodd rym i drefi y tu allan i Lundain sefydlu eu heddluoedd eu hunain |
| Deddf Heddlu Metropolitan 1839 | Ymestyn ardal Heddlu Metropolitan i radiws o 15 milltir o’r canol |
| Deddf Heddlu Sirol 1839 | Rhoddodd rym i bob sir sefydlu eu heddluoedd eu hunain |
| Deddf Heddlu Sirol a Bwrdeistrefi 1856 | Gorfodi pob tref a sir yng Nghymru a Lloegr i sefydlu heddlu cyflogedig llawn amser |
| Deddf | Deddf Corfforaethau Trefol 1835 |
|---|---|
| Datblygiad | Rhoddodd rym i drefi y tu allan i Lundain sefydlu eu heddluoedd eu hunain |
| Deddf | Deddf Heddlu Metropolitan 1839 |
|---|---|
| Datblygiad | Ymestyn ardal Heddlu Metropolitan i radiws o 15 milltir o’r canol |
| Deddf | Deddf Heddlu Sirol 1839 |
|---|---|
| Datblygiad | Rhoddodd rym i bob sir sefydlu eu heddluoedd eu hunain |
| Deddf | Deddf Heddlu Sirol a Bwrdeistrefi 1856 |
|---|---|
| Datblygiad | Gorfodi pob tref a sir yng Nghymru a Lloegr i sefydlu heddlu cyflogedig llawn amser |
Sefydlodd pob ardal ei heddlu yn seiliedig ar heddlu Metropolitan.
Dulliau’r heddluoedd newydd
I ddechrau, roedd yr holl heddluoedd yn cynnwys Cwnstabliaid ac Arolygwyr arferol. Byddai disgwyl i Gwnstabliaid fod yn ddynion ifanc, dros 5'7" o daldra ac yn gallu darllen ac ysgrifennu. Roedden nhw'n gweithio saith diwrnod yr wythnos ac yn treulio eu hamser 'ar y bît' - ardal patrolio benodol ar droed.
Roedd yna lawer o wrthwynebiad i’r heddluoedd newydd ar y dechrau, yn enwedig mewn ardaloedd tlotach, dosbarth gweithiol, megis dwyrain Llundain. Ar draws y wlad roedd yna ddrwgdeimlad ynghylch y trethi oedd eu hangen er mwyn ariannu’r heddlu.
Mewn rhai hofelau roedd yr heddlu yn dal i gael trafferth ennyn cefnogaeth y boblogaeth leol. Yn 'China' ym Merthyr Tudful ymosodwyd ar nifer o swyddogion yr heddlu. Dywedodd un heddwas, Bu i mi fynd i 'China' ac arestio ___ ond fe’i cipiwyd oddi wrthyf gan y dorf ac fe’m gadawyd yn ddiymadferth.
Dim ond erbyn y 1850au yr oedd heddweision yn gallu patrolio ardal China yn rheolaidd.