Dulliau o ymladd troseddSefydlu Ceidwaid Bow Street a’u dylanwad

Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Sefydlu Ceidwaid Bow Street a’u dylanwad

Llun o Henry Fielding.
Figure caption,
Henry Fielding

Sefydlwyd Ceidwaid Bow Street gan Henry Fielding a’i hanner frawd John Fielding yn 1749. Ar y cychwyn dim ond chwech o Geidwaid Bow Street oedd y bodoli, ond estynnwyd y llu i saith Ynad arall. Erbyn 1800, roedd yna 68 o Geidwaid Bow Street.

Roedd ganddyn nhw efynnau llaw (handcuffs), dryll a ffon. Talwyd yr wythnos iddyn nhw er mwyn dal troseddwyr, ac roedden nhw hefyd yn derbyn rhoddion am bob lwyddiannus. Ar y cychwyn roedden nhw'n gwisgo eu dillad eu hunain, ond yn ddiweddarach rhoddwyd lifrai iddyn nhw.

Cafodd John Fielding grant gan y llywodraeth er mwyn sefydlu patrôl ceffylau er mwyn delio â chynnydd mewn lladrata pen ffordd. Fe wnaeth hynny bara am 18 mis yn unig, ond atgyfodwyd y syniad yn dilyn ei farwolaeth yn 1805.

Hefyd, John Fielding ddechreuodd y cysyniad o apelio i’r cyhoedd am help wrth ddatrys troseddau. Cyhoeddodd bapur newydd o’r enw The Quarterly Pursuit, a ailenwyd yn ddiweddarach yn The Public Hue and Cry. Roedd y papurau newydd yma yn cyhoeddi gwybodaeth am eiddo wedi’i ddwyn a throseddau a disgrifiadau o bobl dan amheuaeth.

Effeithlonrwydd Ceidwaid Bow Street a’u dylanwad

Roedd yr hanner brodyr Henry a John Fielding yn arwain Ceidwaid Bow Street yn dda. Cynyddodd niferoedd y Ceidwaid Bow Street ac fe wnaethon nhw barhau ar ôl i grant y llywodraeth ddod i ben.

Gostyngodd y gyfradd troseddu yn Bow Street a chynyddodd yr euogfarnau. Roedd y patrôl ceffylau yn ffordd effeithiol iawn o leihau lladrata pen ffordd. Mewn gwirionedd, roedd mor llwyddiannus fel y rhoddodd y llywodraeth y gorau i’w ariannu oherwydd bod y gyfradd ladrata wedi gostwng cymaint.

Arweiniodd llwyddiant Ceidwaid Bow Street at fentrau eraill yn dilyn marwolaeth y brodyr Fielding.

  • Yn 1792, ariannwyd saith Ynad arall er mwyn ymestyn y Cynllun Bow Street i ardaloedd eraill. Arweiniodd hynny at sefydlu 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain erbyn 1800.
  • Yn 1798, sefydlwyd Heddlu Afon Tafwys. Deilliodd hynny o ddylanwad Ynad arall, Patrick Colquhoun.
  • Yn 1805, sefydlwyd patrôl ceffylau unwaith eto. Roedd 54 o swyddogion yn perthyn i’r patrôl, a gafodd y llysenw Robiniaid Coch, oherwydd eu lifrai coch.

Ond roedd gwaith y brodyr Fielding a’u dylanwad wedi ei gyfyngu i rannau o Lundain - roedd yr un hen drefn o Ynadon a Chwnstabliaid yn parhau ym mhob man arall.