Cyflwyniad i hafaliadauHafaliadau sy’n cynnwys cromfachau

Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol fathau o hafaliadau, sut i gydbwyso hafaliadau, ac ar hafaliadau mwy cymhleth ar ffurf ax + b = c.

Part ofMathemategHafaliadau

Hafaliadau sy’n cynnwys cromfachau

Enghraifft

Ehanga’r cromfachau: \({2}({3a} + {5})\)

Lluosa bopeth y tu mewn i’r cromfachau â’r rhif sydd y tu allan i roi:

\(({2}\times{3a})+({2}\times{5})\)

Symleiddia hyn i:

\({6a} + {10}\)

Dyma enghraifft arall:

Ehanga \({-3}({2b} - {4})\).

Lluosa bopeth y tu mewn i’r cromfachau â’r rhif sydd y tu allan i roi:

\({-3}\times{2b} + {-3}\times{-4}\)

Symleiddia hyn i:

\({-6b} + {12}\)

Question

Datrysa’r hafaliad \({3}({5x} - {4}) = {2}({2x} + {5})\).

More guides on this topic