Cyflwyniad i hafaliadauHafaliadau mwy cymhleth

Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol fathau o hafaliadau, sut i gydbwyso hafaliadau, ac ar hafaliadau mwy cymhleth ar ffurf ax + b = c.

Part ofMathemategHafaliadau

Hafaliadau mwy cymhleth

Weithiau bydd hafaliad yn cynnwys rhif anhysbys wedi ei luosi, ee \({5y} = {20}\). I ddatrys hyn mae angen i ti gael y rhif anhysbys ar ei ben ei hun. I wneud hyn, rhanna’r ddwy ochr â \({5}\).

\({5y} = {20}\)

\({5y}\div{5} = {20}\div{5}\)

\({y} = {4}\)

Weithiau bydd hafaliad yn cynnwys rhif anhysbys wedi ei luosi, yn ogystal â rhifau eraill, ee \({3x} + {2} = {8}\).

Mewn hafaliadau o’r math hwn, dy nod ydy cael pob \(x\) (y rhif anhysbys) ar un ochr a’r holl rifau ar y llall.

Enghraifft

Gad i ni ddatrys yr hafaliad \({3x} + {2} = {8}\). Gallwn ddangos hyn mewn llun fel hyn, lle mae pob bag yn cynnwys \({x}\) o losin.

Diagram o glorian

\({3x} + {2} = {8}\).

Rydyn ni eisiau cael yr \({x}\) ar ei ben ei hun. Dechreua drwy dynnu \({2}\) o’r ddwy ochr:

Diagram o glorian

\({3x} + {2} - {2} = {8} - {2}\)

\({3x} = {6}\)

Wedyn rhanna â \({3}\):

Felly \({x} = {2}\)

Diagram o glorian

Question

Datrysa’r hafaliad \({4x} - {5} = {3}\).

More guides on this topic