Beth ydy hafaliadau?
Mae hafaliadau wedi eu ffurfio o ddau fynegiad â hafalnod rhyngddyn nhw, ee:
\({x} + {2} = {1}\)
I ddatrys hafaliad, mae angen i ti ganfod gwerthoedd y rhifau coll.
Enghraifft
Dw i’n meddwl am rif, adio pedwar, a’r ateb ydy saith.
Dyma sut mae ysgrifennu hwn ar ffurf algebraidd:
\({x} + {4} = {7}\).
Mae \({x}\) yn cynrychioli’r rhif y gwnest ti feddwl amdano.
Mae \({x} + {4} = {7}\) yn enghraifft o hafaliad algebraidd. Mae \({x}\) yn cynrychioli rhif anhysbys.
Rhaid mai \({3}\) ydy’r rhif y gwnest ti feddwl amdano gyntaf \(({3} + {4} = {7})\). Felly, \({x} = {3}\) ydy’r ateb i’r hafaliad \({x} + {4} = {7}\).