Cyflwyniad i hafaliadauCydbwyso’r hafaliad

Mae’r adran hon yn edrych ar wahanol fathau o hafaliadau, sut i gydbwyso hafaliadau, ac ar hafaliadau mwy cymhleth ar ffurf ax + b = c.

Part ofMathemategHafaliadau

Cydbwyso’r hafaliad

Mae hafaliad fel clorian bwyso – dylai’r ddwy ochr bob amser fod mewn cydbwysedd perffaith. I ddatrys yr hafaliad mae angen canfod gwerth y rhifau coll a gwneud yr un gweithrediad ar y ddwy ochr.

Enghraifft 1

Dychmyga dy fod yn ceisio canfod faint o losin sydd yn y bag hwn.

Diagram o glorian

O dynnu tair losinen o’r ddwy ochr, mae’r glorian yn dal yn gytbwys.

Diagram o glorian

Galli di weld nawr fod un bag yn gywerth â dwy losinen, neu, o’i ysgrifennu’n algebraidd:

\({x} + {3} = {5}\)

Tynna \({3}\) o’r ddwy ochr, i gael:

\({x} = {2}\)

Enghraifft 2

Yn yr achos hwn, mae dau fag o losin yn gywerth â chwe losinen:

Diagram o glorian

I ganfod beth sy’n gywerth ag un bag, rhanna’r ddwy ochr yn ei hanner:

Diagram o glorian

O’i ysgrifennu’n algebraidd:

\({2x} = {6}\)

Rhanna’r ddwy ochr â \({2}\), i gael:

\({x} = {3}\)

Question

Datrysa’r hafaliadau:

a) \({a} - {3} = {4}\)

b) \({5b} = {35}\)

Gwirio dy atebion

Er enghraifft, os wyt ti’n meddwl mai’r ateb i’r hafaliad \({x} + {5} = {12}\) ydy \({x} = {7}\), wedyn, i’w wirio, rho \({7}\) yn lle’r \({x}\).

Mae \({7} + {5}\) yn hafal i \({12}\), felly mae dy ateb yn gywir.

More guides on this topic