Eifionydd gan R Williams ParryIaith ac arddull

Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y Lôn Goed.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Iaith ac arddull

Ansoddeiriau

trist

ynfyd

chwerw

blin

Mae’r geiriau hyn yn cyfleu pa mor ddig mae’r bardd yn teimlo tuag at y newidiadau yn y byd modern sy’n honni i fod yn llesol ond mewn gwirionedd mae diwydiant a ‘chynnydd’ yn difetha tir, iechyd a hapusrwydd.

Gwrthgyferbynnu

hagrwch Cynnydd / heb arni staen na chraith

Mae’n tynnu ein sylw at y ffordd mae diwydiant wedi anharddu ardal ac yn cymharu hyn â harddwch ffrwythlon tir amaethyddol.

cynfyd / newyddfyd

Dyma ddefnydd effeithol o amser y gorffennol a’r amser presennol. Mae’r elfen (sef rhoi enw ac ansoddair gyda'i gilydd i greu un gair yn lle dau) yn newyddfyd yn gwneud i’r byd caled, newydd swnio’n feddalach ar y glust ac yn lleihau poen y darllenydd. Mae’r bardd yn gwneud i air negyddol swnio’n well ac eto’n llwyddo i dynnu sylw ato drwy osod ansoddair o flaen enw.

Cyffelybiaeth

Yn aros fel hen win

Mae blas gwin da yn aros ar y tafod. Mae hon yn gyffelybiaeth sy’n apelio at synnwyr blasu. Hefyd, yn aml mae gwin yn gwella wrth aeddfedu. Mae’n cael ei adael am flynyddoedd yn y botel heb ei gyffwrdd er mwyn cael llonydd fel y mae Eifionydd wedi cael llonydd gan law dyn a diwydiant.

Ailadrodd

Hen, hen

Mae hwn yn ailadrodd effeithiol gan ei fod yn digwydd ar ddechrau llinell. Mae’r cytseiniaid yn suo ac yn cysuro a chawn ein hatgoffa o’r ‘cynfyd’ sy’n aros yn bur a digyffwrdd.

Cyflythreniad

"murmur llawer man"

Mae’r ‘m’ eto’n suo’r synhwyrau ac mae’r bardd yn personoli sŵn natur a sŵn y ddwy afon fel lleisiau byw’n swyno a chysuro.

Personoli

wyneb trist y Gwaith

Mae’r ddaear ei hun yn cyfleu ei thristwch ac mae’n debyg y gallech weld y creithiau yn y graig fel y creithiau ar wyneb person sydd wedi dioddef ymosodiad, a’r twll yn y ddaear lle mae’r chwarel fel ceg yn sgrechian mewn poen.

Prif lythrennau

Cynnydd’

Gwaith’

Mae’r prif lythrennau’n tynnu sylw at eironi pwysigrwydd y pethau hyn – maen nhw i fod yn bethau cadarnhaol ond nid ydyn nhw’n ddim byd ond pethau dinistriol a negyddol yn y pen draw.