Eifionydd gan R Williams ParryMesur y gerdd

Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y Lôn Goed.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur y gerdd

Cerdd ar fydr ac odl yw hon. Mae’n gerdd fer, mewn arddull syml sydd yn cynnwys un syniad neu deimlad canolog. Mae hi’n gerdd delynegol lle mae’r bardd hefyd fel arfer yn mynegi ei deimladau ei hun. Mae odl amlwg yn Eifionydd.

Ym mhob pennill chwe llinell ceir odl yn y llinell gyntaf a’r drydedd, ac yn yr ail a’r bedwaredd llinell. Mae’r cwpled clo yn odli ym mhob pennill. Mae patrwm pendant i hyd y llinellau; chwe sill yn yr ail linnel, saith sill yn y drydedd llinell, a chwe sill eto yn y bedwaredd llinell.Mae’r ddwy linell olaf ym mhob pennill yn wyth sill yr un. Yn ogystal â bod yn gymorth i’r cof mae telyneg ar fydr ac odl yn dlws i’r glust ac yn ychwanegu at harddwch yr hyn sydd yn cael ei ddweud yn y gerdd.

Diagram i arddangos patrwm yn y gerdd 'Eifionydd' gan R. Williams Parry.