Eifionydd gan R Williams ParryCefndir a chyd-destun

Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y Lôn Goed.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Mae R Williams Parry yn adnabyddus am ei gerddi am fyd natur. Yn y gerdd hon mae e’n disgrifio lle arbennig sef Eifionydd, ardal amaethyddol rhwng Pen Llŷn, Arfon a Meirionydd.

Pennill un

Mae’r gerdd yn dechrau drwy gymharu dwy ardal, Eifionydd a Bethesda, lle’r oedd y bardd wedi ymgartrefu ar ôl priodi. Dywed fod yna le hardd yn Eifionydd sy’n hollol wahanol i Fethesda lle mae’r ‘Gwaith’ - y chwareli - wedi anharddu’r tir. Sonia yma, mae’n debyg, am chwarel lechi’r Penrhyn lle roedd y chwarelwyr wedi dioddef tlodi mawr tra oedd yr Arglwydd Penrhyn, perchennog y chwarel, yn gwneud elw mawr.

Dioddefodd y gweithwyr lawer yn enw ‘Cynnydd’. Defnyddia’r bardd ‘G’ fawr yn ‘Gwaith’ ac ‘C’ fawr yn ‘Cynnydd’ i gyfleu eironi - mae’r ddau beth yma wedi gwneud yr ardal yn hyll ac wedi achosi tristwch i’r .

Mae Eifionydd rhwng môr a mynydd sef Bae Ceredigion a mynyddoedd Eryri. Yn wahanol hefyd i waith y chwarel ym Methesda lle mae’r llechi wedi cael eu naddu o’r graig gan greu twll nad oes modd ei gau, mae’r gwanwyn yn cael ei rwygo o’r pridd. Mae’r ‘rhwygo’ yma yn beth da, adeiladol, gan ei fod yn deffro’r ddaear ar ôl y gaeaf a’i pharatoi ar gyfer tyfiant newydd y gwanwyn pêr. Yma yn Eifionydd, bydd cnydau yn tyfu ac mae hynny yn gwrthgyferbynnu â gwacter y ddaear ddiwydiannol lle mae’r gwaith diwydiannol parhaus wedi difetha’r tirlun ar y graig.

Pennill dau

Mae’r bardd yn dianc o hwrli-bwrli’r byd a’i brysurdeb i dawelwch Rhos Lan yn Eifionydd. Mae’r ddwy linell agoriadol yn feirniadol o’r byd cyfoes, newydd - y newyddfyd blin - lle mae pawb yn cystadlu yn erbyn ei gilydd tu hwnt i bob rheswm (ymryson ynfyd).

Mae dod i Eifionydd fel camu’n ôl mewn amser i fyd symlach, mwy heddychlon rhwng y ddwy afon - Dwyfor a’r Ddwyfach - lle mae blas y cynfyd / Yn aros fel hen win. Mae’n gyffelybiaeth effeithiol nid yn unig oherwydd bod y lle’n felys a hyfryd fel gwin ond hefyd, fel hen win sydd heb ei gyffwrdd ac wedi cael llonydd i aeddfedu, mae’r lle hwn yn dal i wella. Nid yw wedi dirywio dan law dyn.

Pennill tri

Nid yw'r Lôn Goed yn arwain i unlle ond nid yw hynny’n bwysig i’r bardd. Llonyddwch y lle yw ei rinwedd. Y llonydd gorffenedig hwn yw’r cysur y bu’n chwilio amdano. Mae’r coed o boptu’r lôn yn cyfarfod ac yn plethu i’w gilydd i greu to siâp bwa. Mae natur yn ei amgylchynu fel ystafell heddychlon gyda tho a llawr sy’n ffres a glân ac yn dal i dyfu. Mae hyn yn brofiad ac unigryw i’r bardd. Mae’n ffordd o fod yn un gyda natur.

Pennill pedwar

Mae’n parhau gyda’r ddelwedd o fod wedi cyrraedd lle sy’n baradwys iddo ac yn lloches rhag sŵn a stŵr y byd mawr tu allan. Mae’n lle braf i fod ar dy ben dy hun neu yng nghwmni rhywun agos sy’n gwerthfawrogi’r un pethau ac yn meddwl amdanynt yn yr un ffordd – enaid hoff, cytûn.