Theatr Epig a BrechtLlwyfannu Brechtaidd

Mae syniadau'r dramodydd, Bertolt Brecht, yn ddylanwadol iawn. Roedd am wneud i'r gynulleidfa feddwl ac roedd yn defnyddio technegau i'w hatgoffa nhw eu bod yn gwylio theatr ac nid bywyd go iawn.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Llwyfannu Brechtaidd

Rhannau niferus

Ystyr hyn ydy pan fydd actor yn chwarae mwy nag un cymeriad ar y llwyfan, er enghraifft yn nrama Arad Goch, Tafliad Carreg. Mae’r gwahaniaethau rhwng y cymeriadau yn cael eu dangos drwy newid llais, symudiad, ystum ac iaith y corff, ond mae'r gynulleidfa'n gallu gweld yn glir bod yr un actor yn ymgymryd â mwy nag un rhan. Mae hyn yn golygu bod y gynulleidfa'n fwy ymwybodol o'r ffaith eu bod yn gwylio cyflwyniad o ddigwyddiadau. Mae castio croes-rywiol hefyd yn bosibl mewn Theatr Epig gan nad oes angen i ni atal ein hanghrediniaeth.

Dau actor o gynhyrchiad Tafliad Carreg (Arad Goch) yn pwyso dros rheilen ac yn edrych mewn panig
Image caption,
Actorion o Tafliad Carreg, Arad Goch LLUN: Keith Morris/Arad Goch

Rhannu rôl

Dyma lle y bydd mwy nag un actor yn chwarae'r un cymeriad. Er enghraifft gallai'r actor sy'n chwarae'r brif ran newid o olygfa i olygfa. Mae hyn yn cadw'r cymeriad hwn yn gynrychioliadol ac yn rhwystro uniaethu a chyswllt emosiynol ar ran y gynulleidfa.

Set/gwisgoedd/propiau minimal

Mae'r set, y gwisgoedd a'r propiau i gyd yn syml ac yn finimal. Gallai gwisgoedd manwl olygu bod yr ymdeimlad o theatr, neu esgus bod yn rhywbeth arall, yn cael ei golli.

Roedd Brecht yn credu mewn fel confensiwn verfremdungseffekt. Er bod y mise-en-scène neu osodiad y llwyfan yn finimal, roedd bob amser ymdeimlad o ddilysrwydd i elfennau o'r cynhyrchiad ar wahân i ychydig o sain a goleuo. Er enghraifft, mae cert y Fam Dewrder yng nghynhyrchiad y National Theatre yn llawn propiau realistig y byddai eu hangen ar y Fam Dewrder i fod yn ddilys. Y gert ydy'r pumed aelod o'r teulu yn ôl Brecht felly ceir enghreifftiau o bropiau sydd yr un mor bwysig â chymeriadau yn ei ddramâu.

Propiau symbolaidd

Yn aml gall un eitem gael ei defnyddio mewn amrywiol ffyrdd. Gallai siwtces fod yn ddesg, neu’n ddrws car neu'n fom.

Goleuo

Roedd Brecht yn credu y dylid cadw'r goleuo'n syml gan nad oedd am i'r gwerthoedd cynhyrchu danseilio neges y gwaith. Roedd yn credu mewn defnyddio golau gwyn caled gan fod hyn yn 'goleuo'r gwirionedd'. Fodd bynnag mae llawer o gynyrchiadau modern yn defnyddio effeithiau goleuo. Y peth pwysig ydy bod y gynulleidfa'n parhau i weld y theatr, felly yn aml byddan nhw'n gweld personél y cynhyrchiad, megis y criw cefn llwyfan, yn gweithio ar y llwyfan yn hytrach na'u bod yn gudd.