Ymarfer dealltwriaeth o dechnegau Brechtaidd
Ateba’r cwestiwn ac yna cymhara dy ateb â'r ateb enghreifftiol.
Question
Dychmyga dy fod ar fin dechrau gweithio ar ddarn dyfeisiedig ar fywyd gweithwyr ym mhwll glo Senghennydd ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Bydd ymchwil wedi dangos i ti mor galed oedd bywydau pobl:
- plant ifanc yn ogystal ag oedolion yn gweithio oriau hir am gyflog bach
- perchennog y pwll yn anwybyddu rhybuddion am yr amodau gwaith peryglus
- iawndal bach yn cael ei roi i weithwyr ar ôl damwain a laddodd 439 o bobl ym 1913
- menywod y gymuned yn ymdopi â'r canlyniadau ar ôl colli aelodau o'r teulu
Ysgrifenna restr ar gyfer montageTechneg o’r byd ffilmiau lle mae darnau o ffilmiau gwahanol yn cael eu dewis, eu golygu a'u gosod at ei gilydd i greu cyfanwaith. gyda phum golygfa, gan gynnwys technegau sy'n torri'r bedwaredd wal.
Hoffwn i’r dilyniant hwn bwysleisio'r syniadau sy’n ymddangos yn y golygfeydd eraill. Drwy symud ar draws amser mae’r montage yn datblygu’n ddatganiad am y cyflwr dynol, yn hytrach na bywyd gwaith y cyfnod yn unig.
- Mae adroddwr, bachgen 13 oed o 1913, yn dweud wrth y gynulleidfa eu bod newydd orffen eu hwythnos waith o 48 awr ond bod ei dad a'i frawd hŷn yn gorfod cwblhau 67 a hanner o oriau.
- Daw nani a dau blentyn heibio. Maen nhw'n amlwg yn iach ac yn gyfoethog ac wedi bod yn mwynhau'r awyr iach. Mae'r adroddwr yn ceisio chwarae gyda'r plant ond caiff ei anfon i ffwrdd gan y nani.
- Daw brawd a thad yr adroddwr i'r llwyfan yn eu dillad glowyr. Maen nhw'n amlwg wedi eu niweidio'n gorfforol gan yr oriau di-baid o waith caled. Maen nhw'n poeni am yr amodau gwaith peryglus. Mae'r tad wedi ceisio dweud wrth berchennog y pwll ond dyw e ddim yn gwrando.
- Mae'r teulu'n sefyll gyda'i gilydd fel pe bai ar gyfer ffotograff cyn gadael y llwyfan.
- Mae sgrin yn dangos delwedd o'r teulu ac mae troslais yn esbonio bod y tri aelod o'r un teulu wedi'u lladd yn nhrychineb pwll Senghennydd. Mae'r sgrin yn newid i ddangos mam o'r cyfnod yn dal babi ac yn galaru. Mae'r adroddwr yn esbonio mai dim ond isafswm o iawndal a gafodd hi ar ôl colli ei meibion a'i gŵr.
- Mae'r sgrin yn dangos delwedd o blant yn gweithio yn y pwll sy'n troi'n ffotograff tebyg o deulu modern mewn gwlad yn y trydydd byd. Mae hyn yn dangos y caledi mae plant a theuluoedd yn dal i fod yn eu hwynebu mewn gweithdai sy’n talu cyflogau isel yng ngwledydd y trydydd byd gan wneud sylw gwleidyddol cyfoes.