Pam mae Brecht mor bwysig?
Roedd Bertolt Brecht yn ymarferwr theatr a lluniodd a siapiodd theatr mewn ffordd a gafodd effaith enfawr ar ei datblygiad. Roedd llawer o’i syniadau mor chwyldroadol fel eu bod wedi newid byd y theatr am byth. Mae dyled fawr gan y theatr fodern i’w ddulliau.
Pan oedd theatr naturiolaiddMath o theatr sydd wedi ei chynllunio i greu rhith realiti ar gyfer y gynulleidfa. Dechreuodd tua diwedd y 19eg ganrif. yn ei hanterth ac yn gweithredu fel drych i’r hyn oedd yn digwydd mewn cymdeithas, penderfynodd ei defnyddio fel grym i newid pethau. Roedd am wneud i’w gynulleidfa feddwl. Un peth nodedig a ddywedodd oedd bod cynulleidfaoedd theatrig ar y pryd yn "hongian eu hymennydd gyda’u hetiau yn yr ystafell gotiau".
Mewn theatr naturiolaidd neu ddramatig mae’r gynulleidfa yn malio am fywydau’r cymeriadau ar y llwyfan. Maen nhw’n anghofio eu bywydau eu hunain am gyfnod ac yn dianc i fywydau pobl eraill. Pan fydd cynulleidfa’n crïo dros gymeriad neu’n teimlo emosiwn drwy’r digwyddiadau ar y llwyfan, yr enw ar hyn ydy catharsis.
Roedd Brecht yn gwrthwynebu theatr gathartig. Pan fyddai aelodau’r gynulleidfa’n credu yn yr hyn oedd yn digwydd ar y llwyfan ac yn uniaethu’n emosiynol, roedd yn credu eu bod yn colli’r gallu i feddwl a beirniadu. Roedd am i’w gynulleidfaoedd aros yn wrthrychol a pheidio ag uniaethu’n emosiynol. Yna gallen nhw ddod i farn ystyriol a rhesymol am unrhyw sylwadau neu gwestiynau cymdeithasol yn ei waith. I gyflawni hyn byddai’n defnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau neu dechnegau theatrig er mwyn atgoffa cynulleidfaoedd drwy’r perfformiad eu bod yn gwylio theatr; cyflwyniad o fywyd, nid bywyd go iawn. Yr enw ar ei fath ef o theatr ydy Theatr Epig. Roedd yn galw’r ddyfais o bellhau’r gynulleidfa rhag uniaethu’n emosiynol yn verfremdungseffekt.