Brecht heddiw
Mae dramâu Brecht yn parhau i fod yn boblogaidd iawn heddiw ac mae ei waith wedi dylanwadu ar lawer o ymarferwyr. Os bydd angen i ti adolygu perfformiad Brechtaidd, ni fydd yn wahanol iawn i unrhyw adolygiad arall, ond bydd gen ti ddiddordeb gweld pa mor effeithiol mae'r perfformwyr wedi bodloni disgwyliadau'r sgript. Fel awdur gwleidyddol, mae'n siŵr y byddai Brecht wedi disgwyl i gynhyrchiad modern fynd i'r afael â materion cyfoes a pharhau i fod yn driw i'w ddelfrydau ar yr un pryd.
Dylet ti geisio cael gafael ar raglen er mwyn i ti allu astudio nodiadau'r cyfarwyddwr. Bydd hyn o gymorth i ti ddeall pa faterion roedden nhw'n ceisio eu portreadu yn y cynhyrchiad a sut yr aethon nhw ati. Darllena Ysgrifennu a gwerthuso theatr i ddysgu mwy.
Mae rhai beirniaid wedi cyhuddo Brecht o 'ddwyn' fel yr esbonia'r beirniad theatr Michael Billington:
Wrth gwrs, mae'n ddigon hawdd creu achos yn erbyn Brecht. Roedd yn bioden ddigywilydd oedd yn dwyn gan bawb, yn aml heb gydnabod hynny. Roedd yn ei dwyllo ei hun y gallai ddarparu gwrthwynebiad mewnol i gyfundrefn lwgr Ulbricht yn Nwyrain yr Almaen ar ôl y rhyfel, ac ar yr un pryd derbyn ei harian i greu'r Berliner Ensemble. Ac er iddo weithio dros y proletariat roedd Brecht ei hun, yng ngeiriau'r beirniad Eric Bentley, yn "bwll bwrgeisaidd diwaelod"
Serch hynny mae cyfarwyddwyr ac awduron yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd o ddehongli ei waith o'r newydd. Mae'r detholiad hwn o raglen BBC Radio 3 Night Waves yn cynnwys y dramodydd Mark Ravenhill yn siarad am gyfieithu drama Bertolt Brecht, Leben des Galilei (Bywyd Galileo yn Gymraeg), i'r Royal Shakespeare Company. Mae hefyd yn trafod pam mae Brecht yn parhau i fod yn berthnasol i theatr fodern.