Sut rydw i’n diweddaru fy nghyfeiriad e-bost?

Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif BBC.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r BBC, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Ar y sgrîn "Manylion personol”, cliciwch "Golygu" wrth ymyl eich cyfeiriad e-bost a rhowch un newydd. Bydd angen i chi roi eich cyfrinair er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.

5. Yna cliciwch ar “Cadw a bwrw ymlaen”.

6. Cofiwch ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i'r BBC.

7. Unwaith y byddwch chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost, byddwn yn anfon e-bost newydd i wirio mai chi sydd yno. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ei ddilysu, neu ni fyddwch yn gallu gwneud pethau fel rhoi sylwadau ar straeon newyddion y BBC.

Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?

Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: