Sut rydw i'n newid fy nghyfrinair?

Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif BBC.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r BBC, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Ar y sgrin "Manylion personol”, cliciwch "Golygu" wrth ymyl eich cyfrinair a rhowch un newydd. Bydd angen i chi roi eich cyfrinair cyfredol er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.

5. Yna cliciwch ar “Cadw a bwrw ymlaen”.

6. Cofiwch ddefnyddio eich cyfrinair newydd y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi i'r BBC.

Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?

Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.

Dan 13 oed?

Ymddiheuriadau, ond ni allwch ailosod eich cyfrinair os ydych chi wedi ei anghofio. Yn hytrach, bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif BBC newydd.

Cofiwch eich cyfrinair y tro hwn, ond peidiwch â’i ysgrifennu yn unrhyw le rhag i rywun ddod o hyd iddo.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: