Rydych chi wedi cwblhau'r holl waith ar gyfer BBC micro:bit - arolwg iard chwarae, ac mae eich dosbarth wedi gweithio'n galed gan ddefnyddio eu dyfeisiau micro:bit i ddysgu mwy am dymereddau arwyneb, bioamrywiaeth, arwynebedd a gweithgaredd corfforol. Felly… beth nesaf?
Gwylio’r fideo
(Fideo cyfrwng Saesneg)
Shereen: Felly, beth nesaf?
Big Manny: Mi fydd yn ddiddorol iawn edrych ar ein data a'i ddadansoddi. Beth fydd ein canlyniadau'n ei ddweud am ein hiard chwarae ni? Beth mae eich canlyniadau chi'n ei ddweud am eich iard chi? Allwch chi ganfod cysylltiadau, sylwi ar batrymau, neu weld syrpreisys?
Yussef: Os ydych chi'n dadansoddi eich canlyniadau, gallwch ddefnyddio'r wybodaeth i ddatrys problemau yn eich iard chwarae.
Big Manny: Os yw'ch canlyniadau yn dangos bod tymheredd arwyneb deunyddiau synthetig yn uchel iawn, gallwch ystyried a oes angen mwy o ddeunyddiau naturiol neu gysgod.
Yussef: Neu os hoffech gynyddu'r fioamrywiaeth, efallai gallai bocsys adar neu westai pryfed annog ffrindiau newydd i ddod.
Tilly: A dw i'n siŵr bydd eich iard yn newid mewn pob math o ffyrdd yn y dyfodol. Felly beth am ofyn i ddosbarth arall gynnal yr arolwg a'i rannu gyda'r ysgol y flwyddyn nesaf?
Shereen: Efallai cewch eich rhyfeddu gan gymaint sy'n newid!
Yussef: Ond yna, beth nesaf?
Tilly: Efallai'ch bod chi wedi casglu holl ddata'r cam yma, ond does dim rhaid stopio defnyddio'ch micro:bit.
Big Manny: Fel y gwyddoch erbyn hyn, mae'r teclyn bach gwych yn gallu gwneud cymaint o bethau, felly beth am ddal ati?
Shereen: Rhaglennwch eich micro:bit i fod yn gwmpawd, a gallwch ddarganfod i ba gyfeiriad mae'ch iard yn wynebu, a pha adegau o'r dydd fydd eich iard yn cael y rhan fwyaf o heulwen neu gysgod.
Yussef: Neu efallai ymchwiliwch i fannau mwyaf swnllyd eich iard gyda microffon y micro:bit i'ch helpu i gynllunio eich llefydd tawel.
Big Manny: Syniadau gwych! Gallwch hefyd newid y rhifydd bioamrywiaeth i gyfri rhywbeth arall sy'n bwysig i'ch amgylchedd lleol, fel traffig neu sbwriel.
Tilly: Mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd.
Big Manny: Gobeithiwn yn fawr eich bod wedi mwynhau ac wedi dysgu lot am eich iard chwarae.
Shereen: Cofiwch, mae'r micro:bit yn disgwyl i chi greu a llwytho rhaglenni newydd a rhoi cynnig ar bob math o wahanol bethau. Felly daliwch i arbrofi gyda'r cod.
Yussef: Mae'n amser ffarwelio, am nawr.
Tilly: Hwyl!
Nodiadau i athrawon ar yr arolwg iard chwarae
Mae’r posibiliadau o ran ble gallwch chi fynd â’ch dysgu nesaf yn ddiddiwedd, felly ar gyfer y gweithgaredd hwn nid ydym wedi darparu cyfarwyddiadau i athrawon na thaflenni gwaith i ddisgyblion. Yn hytrach, rydym wedi awgrymu nifer o weithgareddau ymestynnol a sefydliadau i brocio eich diddordeb a’ch helpu i droi eich data’n newid yn y byd go iawn – heb chwalu’r gyllideb!
Cofiwch y bydd rhai o’r dolenni yn yr erthygl hon yn mynd â chi o wefan y BBC.
Awgrymiadau o weithgareddau ymestynnol
Cymryd rhan yng nghystadleuaeth Nominet
Mae partner BBC micro:bit - cewri codio, Nominet, yn cynnal raffl fisol am ddim i helpu ysgolion i gadw cyfrifiadura wrth galon y cwricwlwm. Bydd ysgol wahanol yn ennill £5,000 tuag at offer digidol bob mis tan fis Gorffennaf 2025 – ac ar ôl cofrestru, bydd eich ysgol yn cael ei chynnwys yn y raffl bob mis!
Ailadrodd yr arolwg iard chwarae
Gallech ailadrodd yr arolwg yn ystod tymor gwahanol o’r flwyddyn a chadw cofnod o sut mae eich iard chwarae yn newid dros amser. Beth am ofyn i ddosbarth arall wneud yr arolwg a’i rannu â’r ysgol y flwyddyn nesaf? Os hoffech chi archwilio agweddau eraill ar eich iard chwarae, dyma chwe ystadegyn arall y gallech chi hefyd eu harolygu gyda’ch dyfeisiau micro:bit. Os ydych chi wedi penderfynu yr hoffech wneud eich newidiadau eich hun i'ch iard chwarae yn dilyn casgliadau eich arolwg, dyma rai syniadau y gallech eu defnyddio i ddechrau arni…
Plannu mwy o goed
Os yw eich arolwg wedi datgelu tymheredd cyfartalog uchel ar eich iard chwarae, gallech ystyried plannu mwy o goed i gynyddu faint o gysgod sydd gennych. Gallai cynlluniau gan Coed Cadw a’r Tree Council fod yn ffordd wych o addysgu disgyblion am blannu a gofalu am goed yn ogystal â rhoi cartref newydd i fywyd gwyllt. I’ch helpu i ganfod y lle gorau ar gyfer plannu coed newydd, gallech droi’r micro:bit yn gofnodwr data amgylcheddol i fesur golau a thymheredd dros sawl awr neu ddiwrnod.
Mae Coed Cadw yn rhedeg cynllun i roi coed ifanc am ddim i ysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ar ôl i chi roi manylion eich prosiect plannu coed i Coed Cadw, gallech gael pecyn o 15, 30, 105 neu 420 o goed ifanc yn ystod y tymor plannu, un ai ym mis Mawrth neu ym mis Tachwedd.
Mae rhaglen Orchards for Schools Tree Council yn agor i geisiadau yn y gaeaf ac yn darparu pecynnau perllan a gwrychoedd am ddim. Gallech hefyd gofrestru ar gyfer eu cynllun Hyrwyddwyr Coed Ifanc, sy’n darparu coed, gweithdai a bwndeli technoleg am ddim. Mae mwy o goed yn golygu tymheredd is, llai o lygredd aer a mwy o gynefin naturiol i gynyddu bioamrywiaeth – gwaddol o’ch arolwg iard chwarae a fydd yn para am flynyddoedd i ddod!
Dylunio strwythurau newydd
Ffordd arall o ddarparu mwy o gysgod wrth greu mwy o le ar gyfer dysgu yn yr awyr agored a gweithgareddau amser egwyl yw drwy adeiladu strwythurau ffisegol. Mae gan Raglen Ysgolion Genedlaethol am ddim Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain amrywiaeth o weithgareddau. Gallai’r rhain helpu eich disgyblion i ddeall yr amgylchedd adeiledig a dysgu sut i’w wella – gan gynnwys sut i adeiladu toeau gwyrdd a biogromenni.
Gall penseiri sy'n gweithio hefyd ymweld ag ysgolion fel rhan o'r bartneriaeth Llysgenhadon Pensaernïaeth, i helpu disgyblion i ddatblygu syniadau i ddatrys y problemau maen nhw'n eu nodi. Gallai’r adnoddau hyn fod yn gam nesaf cyffrous i ostwng tymheredd eich iard chwarae, yn ogystal â’i wneud yn lle mwy hyblyg ar gyfer dysgu yn yr awyr agored waeth beth fo’r tywydd!
A beth am ddysgu popeth sydd i'w wybod am thermomedrau micro:bit gyda chast So Awkward CBBC, a dysgu sut i anfon darlleniadau tymheredd rhwng dyfeisiau micro:bit gan ddefnyddio signalau radio!
Adeiladu cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt
Nid pobl yw’r unig rai sy’n gallu elwa o strwythurau newydd. Beth am gynyddu bioamrywiaeth drwy roi cartref newydd i fyd natur ar eich iard chwarae? Os oedd eich arolwg iard chwarae yn dangos prinder bioamrywiaeth, gallech adeiladu gwesty pryfed neu focs adar fel lloches iddyn nhw, ac annog twf ym mhoblogaeth gwahanol rywogaethau a fydd yn helpu’r ecosystem gyfan.
Gellid defnyddio’r canllawiau hyn gan Coed Cadw a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar fel cynlluniau gwersi. Ac i fynd â hyn gam ymhellach, gallech geisio gwneud cartref i ddraenogiaid gyda’r canllaw hwn gan yr Ymddiriedolaethau Natur.
Os ydych chi’n chwilio am her hirdymor, mae rhaglen Bees4Schools Elusen Gwenyn Prydain yn caniatáu i ysgolion wneud cais am gyllid ar gyfer yr holl offer a chyfarpar sydd eu hangen arnoch i gynnal cwch gwenyn ar eich iard chwarae, gan gynnwys nythfa o wenyn mêl!
Tyfu gardd ysgol
Ffordd arall o gynyddu bioamrywiaeth yw plannu gardd, sy’n gallu trawsnewid ardal segur ar yr iard chwarae yn ffynhonnell o gysgod, gorffwys a bwyd i fywyd gwyllt.
Gallai Ymgyrch yr RHS dros Arddio mewn Ysgolion helpu i gynnwys y dosbarth cyfan mewn gweithgareddau garddio ymarferol, yn cynnwys crefftau natur a chompostio. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal y Gwobrau Garddio i Ysgolion, gan roi strwythur pum lefel i’ch prosiect. Mae’r disgyblion yn cael tystysgrifau, llyfrau a thalebau garddio ar hyd y ffordd. Gallai eich tîm hyd yn oed ymuno â Garddwyr Ysgol y Flwyddyn!
Mae rhaglen BeeBombs4Schools Elusen Gwenyn Prydain yn caniatáu i ysgolion cynradd wneud cais am ‘fomiau gwenyn’ am ddim, sef peli o hadau blodau gwyllt brodorol, ac mae hefyd yn darparu pecyn addysgol ar bwysigrwydd gwenyn a sut i’w diogelu.
Mwynhau gemau newydd
Os oedd eich arolwg iard chwarae yn dangos mai ychydig iawn o le sydd, efallai eich bod yn ceisio meddwl sut i wneud y defnydd gorau ohono i adlewyrchu eich canfyddiadau o ran tymheredd, bioamrywiaeth a gweithgareddau. Allwch chi ddim gwneud eich iard chwarae yn fwy, ond gallech chi gynyddu'r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael drwy fwynhau gemau nad oes angen llawer iawn o le arnynt - gemau micro:bit!
Beth am ddysgu sut i anfon negeseuon syml rhwng dyfeisiau micro:bit; neu fwynhau'r gêm telegludo hwyaden, ar Saturday Mash-Up CBBC! Gallech chi hefyd ddefnyddio dyfeisiau micro:bit fel dis i chwarae gemau bwrdd yn ystod amser chwarae neu roi cynnig ar carreg, papur, siswrn.
Mae’r Diwrnod Dosbarth Awyr Agored hefyd yn darparu adnoddau a syniadau gwersi i wneud dysgu yn yr awyr agored yn ganolog i'r cwricwlwm - waeth beth yw maint eich iard chwarae!
Defnyddio’r pum synnwyr
Gallech greu profiadau synhwyraidd drwy wella nodweddion presennol, drwy gerddoriaeth neu ardd synhwyraidd. Gallai’r rhain roi hwb i lesiant ac ennyn diddordeb cymuned yr ysgol gyfan. Gallech annog disgyblion i fynd ag offerynnau cerdd allan i’r awyr agored a chwarae gyda’i gilydd, neu ddefnyddio eu dyfeisiau micro:bit i chwarae eu hoff ganeuon a chyfansoddi eu caneuon eu hunain. Fel cam nesaf, gallent ymgysylltu â chynlluniau fel cynllun Learn to Play Music for All, sy’n cynnig gwers gerddoriaeth am ddim i bobl o bob oed a gallu mewn lleoliadau ledled y DU.
Mae Ymgyrch yr RHS dros Arddio mewn Ysgolion yn cynnwys canllaw ar greu gardd synhwyraidd, mawr neu fach. Gallai ardal â blodau llachar, ffrwythau blasus, planhigion aromatig a dail o bob math ddarparu lle arall i ddisgyblion ddysgu am fyd natur.
Cadw’n heini heb offer
P’un a oes gan eich ysgol ddigonedd o gyfarpar chwarae neu ddim o gwbl, gallech annog disgyblion i weithio gyda’i gilydd mewn gemau a gweithgareddau corfforol lle nad oes angen llawer o offer, fel rasys cyfnewid, pêl-droed neu ddawnsio. Gall gwaith tîm, creadigrwydd a chystadleuaeth gyfeillgar fod yr un mor werthfawr heb offer - gallai disgyblion hyd yn oed droi eu dyfeisiau micro:bit yn gofnodwyr data nerth cicio gyda chast rhaglen Football Academy CBBC!
Os oedd eich arolwg iard chwarae yn dangos bod un gweithgaredd amser chwarae yn ffefryn amlwg, beth am barhau i ddefnyddio’r dyfeisiau micro:bit fel tracwyr gweithgaredd corfforol i weld sut mae gweithgaredd corfforol yn newid dros amser, neu’n amrywio yn ôl oedran neu grŵp blwyddyn? Ac os yw eich disgyblion yn cael trafferth dewis rhwng eu hoff weithgareddau, gallen nhw ddefnyddio eu micro:bit fel dyfais dewis gweithgareddau.
Gwneud pethau’n fwy cynhwysol
I helpu mwy o’ch disgyblion i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys ar yr iard chwarae, gallech addasu rhai o hoff weithgareddau corfforol eich dosbarth drwy eu gwneud yn fwy hygyrch. Mae gan y Gynghrair Gweithgareddau amryw o adnoddau ar chwaraeon hygyrch a gwybodaeth am fudiadau chwaraeon anabledd. Gallai hyn eich helpu i annog y dosbarth cyfan i fod yn egnïol mewn ffordd fwy cynhwysol, boed hynny drwy addasu fformatau adnabyddus neu roi cynnig ar chwaraeon sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer pobl anabl.
Gallech hyd yn oed gymryd rhan yn ymgyrch BBC Addysg, Super Movers for Every Body, i ddathlu Gemau Paralympaidd Paris yn 2024. O Boccia i bêl-droed dall, gallai offer rhad ac am ddim yr ymgyrch eich helpu i adeiladu ar ganlyniadau eich arolwg iard chwarae drwy wneud y gofod yn fwy cynhwysol yn y dyfodol. Bydd cofrestru am offer yn agor ar 1 Ebrill 2024.
Dim ond dechrau eich taith gyda'r micro:bit yw hyn!
Byddem wrth ein bodd yn clywed a ydych chi wedi penderfynu newid unrhyw beth yn eich iard chwarae ar ôl dadansoddi eich data. P’un a ydych chi’n gwella eich gofod, yn ailadrodd yr arolwg neu’n dod o hyd i ystadegau newydd i’w mesur, gallwch rannu eich syniadau a’ch gweithgareddau â ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio @BBC_Teach.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae
Chwe syniad arall ar gyfer yr arolwg iard chwarae!
Chwech o ystadegau eraill y gallwch chi eu harolygu yn iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio micro:bit y BBC.

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho
Popeth sydd angen ei wybod am yr arolwg iard chwarae, a'r holl adnoddau dysgu sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.
