Os ydych chi wedi cwblhau'r gwaith casglu data, dyma chwech o ystadegau eraill y gallwch eu harolygu yn iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio eich micro:bit.
Cofiwch y bydd rhai o’r dolenni yn yr erthygl hon yn mynd â chi o wefan y BBC.
Cwmpawd. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn gwmpawd? Gallech chi weithio allan i ba gyfeiriad y mae eich iard chwarae yn wynebu.

Cofnodwr data arolwg traffig neu sbwriel. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn gofnodwr data arolwg traffig neu’n rhifydd sbwriel? Gallech chi gyfrifo faint o sbwriel sydd yn eich iard chwarae, i’ch helpu i feddwl am eich mannau ailgylchu.

Mesurydd sain. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn fesurydd sain? Gallech chi fesur y lefelau sŵn o’ch cwmpas, i’ch helpu i gynllunio eich mannau tawel.

Synhwyrydd golau'r haul. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn synhwyrydd golau’r haul? Gallech chi ddod o hyd i'r mannau tywyll yn eich iard chwarae.

Lefel wirod. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn declyn lefel wirod, i weld pa mor wastad neu serth yw eich iard chwarae.

Pôl piniwn. External Link
Beth am raglennu eich micro:bit i fod yn bôl piniwn drwy addasu rhaglen rhifo rhywogaethau micro:bit, a chael gwybod beth yw barn eich ysgol am yr iard chwarae?


Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - cewri codio
Gwybodaeth am y micro:bit
Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru
Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode
Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Ein partneriaid
Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin
Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.
