Main content

Cerdd a sgwrs gydag Esyllt Nest Roberts

Shân yn holi bardd mis Mehefin Esyllt Nest Roberts

Sws
(Ariannin 2004)

Er mai’r Gymraeg sy’n teyrnasu arni
mae’r wefus uchaf yn wastadol anystwyth gen i,

ei harfer yw gwenu’n boleit, foneddigaidd
gyda rhyw amnaid bwriadol anfursennaidd,

ysgwyd llaw a chyfarch “Pa hwyl?” yn glên
heb ddisgwyl ateb go iawn - mi wneith gwên.

Neilltuaf fy swsus i chwaer a chyfeilles
(neu gariad sy ’nghudd i fyny’r llawes),

gan gadw fy holl jyrms i mi fy hun
yn heintiau caeth rhwng cadwynau dau fin.

Na, nid hawdd yw i geffyl lacio’i weflau
a magu cast cusanu bochau.

* * * *
Sws
(Cymru 2017)

Pan ddaeth Iago i’r ysgol â phoen yn ei fol
mi ledodd fy mreichiau fel llorpiau trol;

yn ei wewyr teirmlwydd, roedd bryd yr hen ddyn
ar gusan gysurus neu foethau ar lin

ond yr unig falm i feichiau ei fyd
oedd hances bapur ac wedyn - dim byd!

Ac wrth gamu dros riniog neu gyfarch cydnabod
y fi sydd bellach yn mygu rhyw chwithdod

gyda ’ngharnau mewn cyffion, rhwng dwywlad yn crwydro
a ’ngwefusau ynghlo dan fariau dawns limbo.

Esyllt Nest Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau