Episode details

Available for over a year
Sws (Ariannin 2004) Er mai’r Gymraeg sy’n teyrnasu arni mae’r wefus uchaf yn wastadol anystwyth gen i, ei harfer yw gwenu’n boleit, foneddigaidd gyda rhyw amnaid bwriadol anfursennaidd, ysgwyd llaw a chyfarch “Pa hwyl?” yn glên heb ddisgwyl ateb go iawn - mi wneith gwên. Neilltuaf fy swsus i chwaer a chyfeilles (neu gariad sy ’nghudd i fyny’r llawes), gan gadw fy holl jyrms i mi fy hun yn heintiau caeth rhwng cadwynau dau fin. Na, nid hawdd yw i geffyl lacio’i weflau a magu cast cusanu bochau. * * * * Sws (Cymru 2017) Pan ddaeth Iago i’r ysgol â phoen yn ei fol mi ledodd fy mreichiau fel llorpiau trol; yn ei wewyr teirmlwydd, roedd bryd yr hen ddyn ar gusan gysurus neu foethau ar lin ond yr unig falm i feichiau ei fyd oedd hances bapur ac wedyn - dim byd! Ac wrth gamu dros riniog neu gyfarch cydnabod y fi sydd bellach yn mygu rhyw chwithdod gyda ’ngharnau mewn cyffion, rhwng dwywlad yn crwydro a ’ngwefusau ynghlo dan fariau dawns limbo. Esyllt Nest Roberts
Programme Website