Episode details

Available for over a year
Calan Mai Mae'r curiad ar y draethell hon ym mordwy meddal araf don. Yn sisial y crisialau pêr o gerrig mân, a’r gwymon blêr. Yn anadl eithin melyn-las bob yn ail melysaidd flas, yn pigo, ond yr amser iawn i guro hefo'r curiad llawn. Fe'i clyw yng nghân y gwcw lon yn neidio draw o'r flwyddyn gron i diwnio tannau telyn bod wrth nesu anterth blaena'r rhod. Fe'i gweli yng nghyfeilio'r tarth wrth fwytha'r bore, cwm a garth, yn llusg yr haul wrth groesi'r llawr i atsain dyddiau llewyrch mawr. Oni theimli dithau hefyd curiad Mai yn goddiweddyd. 'Rôl hirymaros am ddychwelyd O plîs! 'Rhosa fwy nag ennyd.
Programme Website