Drama ddomestig
Nia Môn yn cyfansoddi ar faterion domestig!
Bore da!
Sychu trwyna
Sychu penola
Gneud cacenna
-ond Golchi nwylo gynta -
Ond bod y sinc llawn mwd y Bari
Rôl llnau sgidia rygbi.
Ond mae’n amser sticio iddi
Nôl i’r ysgol heddi!
Ar ôl byta, dyfrio, gwisgo mae’n amser hel y bagia...
“Ti’m di gorffen dy waith cartra?”
“Be ti’n feddwl prawf tabla?”
“Je ne sais pas lle ma’r bali llyfr gita’?”
Roedd pawb yn mynnu loetran
Felly rhaid oedd dechra sgrechian
“Gwisgwch”, “Brwshwch””Brysiwch!” Rŵan!”
A ninnau ar fin mynd allan...
“Mam - Ga’i fechdan?
Dwi’n casáu lledan”
Troi nôl dan regi’n groch
A gneud wrap yn llawn sos coch!
Bellach roedd hi’n chwarter i
“Rhaid chi fynd i’r car eich tri”
A dyma ddechrau nhruth
Am wneud mam yn flin eto fyth
A’r drwg i’r amgylchedd
O yrru yn lle cerdded.
Caf “Sori Mam” gan y tri
A Mae’n dechra bwrw – “lle ma’n cotia ni?”
“Rhedwch dyna’r gloch”
Sws ar bob boch...
A rŵan ga’i ddwy awr a hannar...
I gael paned dawel a brwsho nannadd
Ond mae’r tŷ beniwaered
a dwi angen sgwrio’r calpol o’r carped
felly ma’r clirio yn dechra
a’r weetabix fel sment ar y cadeiria
coca cola dros y to
angen Hwfro dros y lego...
Baglu ar gleddyf ar fy hyd
Ond newidiwn i ddim o hyn am y byd!
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Bardd Tachwedd 2016 - Nia Mon—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2016 yw Nia Mon.






