Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Drama ddomestig

Bore Cothi

Available for over a year

Bore da! Sychu trwyna Sychu penola Gneud cacenna -ond Golchi nwylo gynta - Ond bod y sinc llawn mwd y Bari Rôl llnau sgidia rygbi. Ond mae’n amser sticio iddi Nôl i’r ysgol heddi! Ar ôl byta, dyfrio, gwisgo mae’n amser hel y bagia... “Ti’m di gorffen dy waith cartra?” “Be ti’n feddwl prawf tabla?” “Je ne sais pas lle ma’r bali llyfr gita’?” Roedd pawb yn mynnu loetran Felly rhaid oedd dechra sgrechian “Gwisgwch”, “Brwshwch””Brysiwch!” Rŵan!” A ninnau ar fin mynd allan... “Mam - Ga’i fechdan? Dwi’n casáu lledan” Troi nôl dan regi’n groch A gneud wrap yn llawn sos coch! Bellach roedd hi’n chwarter i “Rhaid chi fynd i’r car eich tri” A dyma ddechrau nhruth Am wneud mam yn flin eto fyth A’r drwg i’r amgylchedd O yrru yn lle cerdded. Caf “Sori Mam” gan y tri A Mae’n dechra bwrw – “lle ma’n cotia ni?” “Rhedwch dyna’r gloch” Sws ar bob boch... A rŵan ga’i ddwy awr a hannar... I gael paned dawel a brwsho nannadd Ond mae’r tŷ beniwaered a dwi angen sgwrio’r calpol o’r carped felly ma’r clirio yn dechra a’r weetabix fel sment ar y cadeiria coca cola dros y to angen Hwfro dros y lego... Baglu ar gleddyf ar fy hyd Ond newidiwn i ddim o hyn am y byd!

Programme Website
More episodes