Main content

Breuddwydion

Breuddwydion

Neithiwr, a minnau’n nythu – yn fy ngwâl,
fy nghwsg fu’n cynhyrchu
sawl delwedd i’w rhyfeddu:
carbwl dwl yr oriau du.

Roedd y Pab yn yn hyrddio pais – o ffenest
yn Nhreffynnon. Gwelais
Dewi Sant yn yn waldio sais
yn ddedwydd, fe freuddwydiais

am warewolf am Anti Marian – mewn sied,
am hen siarc sy’n hedfan
i Argos. Am Brei’r organ
a rhyw ful mewn carafán.

Gweld Mamoth a Sian Cothi’n weldio trons
Donald Trump mewn festri
yn Sarn, ac fe welais i
ostrich yn gochi llestri.

Breuddwydiais y gwelais nhw’i gyd – Hitler
yn is-deitlo’n ddiwyd
am Ifor ap, am afr hud
wnaeth deisen hufen. Hefyd

“Pre-toasted Super Tusday!” – cyhoeddwyd.
“Cei heddiw yn Seffwê
barot sy’n gwisgo beret
all yfed dished o de.”

Hen bysgodyn heb sgidiau – a llefrith
mewn llyfr, ac yn Blaenau
cesyg gwyn fu’n ceisio gwau
y Garry Owen gorau.

Ceffyl yn ordro coffi – a tatan
mewn twtw, a mwnci
mewn scectol ddaru holi:
“Be wnei o hyn?” Be wn i?!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o