Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Breuddwydion

Bore Cothi

Available for over a year

Breuddwydion Neithiwr, a minnau’n nythu – yn fy ngwâl, fy nghwsg fu’n cynhyrchu sawl delwedd i’w rhyfeddu: carbwl dwl yr oriau du. Roedd y Pab yn yn hyrddio pais – o ffenest yn Nhreffynnon. Gwelais Dewi Sant yn yn waldio sais yn ddedwydd, fe freuddwydiais am warewolf am Anti Marian – mewn sied, am hen siarc sy’n hedfan i Argos. Am Brei’r organ a rhyw ful mewn carafán. Gweld Mamoth a Sian Cothi’n weldio trons Donald Trump mewn festri yn Sarn, ac fe welais i ostrich yn gochi llestri. Breuddwydiais y gwelais nhw’i gyd – Hitler yn is-deitlo’n ddiwyd am Ifor ap, am afr hud wnaeth deisen hufen. Hefyd “Pre-toasted Super Tusday!” – cyhoeddwyd. “Cei heddiw yn Seffwê barot sy’n gwisgo beret all yfed dished o de.” Hen bysgodyn heb sgidiau – a llefrith mewn llyfr, ac yn Blaenau cesyg gwyn fu’n ceisio gwau y Garry Owen gorau. Ceffyl yn ordro coffi – a tatan mewn twtw, a mwnci mewn scectol ddaru holi: “Be wnei o hyn?” Be wn i?!

Programme Website
More episodes