Main content

Bron Meirion - Llion Jones - 2

Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones

Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones.

Rhan 2

RHAN MWYNWEN + LLAIS MEWN CYNGHANEDD

Dad: Pwy fysa wedi meddwl! Mwynwen yn cael ei abductio gan aliens!

Mam: Well, fyswn i ddim yn ei alw fo’n abductio! Nath hi neidio mewn i’r llong ofod yn gweiddi “take me”!

Dilwyn: Lle da chi’n meddwl ma nhw di mynd a hi? Rwla hollol allan o’r ffordd fatha Area 51? Neu Corris?

Dad: Dwn im. Ond ma nhw di dychryn yr hippies i gyd, a di ‘ngadal i hefo 10 bocs o t-shirts fedrai’m werthu! Damia nhw!

SFX drws yn agor

Mwynwen:

Haia bawb! Oes ‘na bobol?
Fi Mwynwen sy’ adre’n ôl.

Mam: Mwynwen! Lle ti di bod! Dwi di bod yn poeni amdana chdi! Nath yr aliens dy drin di’n iawn?

Mwynwen:
Do, wir yr, heb fawr o strach,
dau alien heb eu deliach,
nhw heb os ‘di’r gorau’n bod
ar gyfer mynd i’r gofod
a’u roced fendigedig
o ffab, ac mor hiiiiir ei phig.

Dilwyn: Natha nhw neud experiments arna chdi?

Mwynwen:
Do, fy mhrobio am rywbeth.
Pa ots? Wnes i joio’r peth.
Joio a’r probio’n parhau
a’r miri’n fawr am oriau.

Dilwyn: Pam ti’n siarad yn funny?

Mwynwen:
Yn rhyfedd? Be’ ti’n feddwl?
Mae’n hollol naturiol… Tŵl!

Mam: O! Be ma nhw di neud i chdi Mwynwen fach! Ydyn nhw wedi cal effaith ar dy frên di?

Dilwyn: Pa frên?

Mwynwen:
O Dilwyn taw â’r dwli! – Ond mae’n od
y mae ‘na egni
o’r aliens sy’n rheoli
rhyw sut fy holl sgwrsio i.
… Mae’r cyfan mewn cynghanedd

Dad: Be? Siarad mewn cynghanedd?!

Mam: Fatha yn y Steddfod?

Mwynwen:
Yn union, mewn cynghanedd,
yr hen ddweud ar newydd wedd,
synau llên sy’n swyno’n llwyr
ond synau sy’n gwneud synnwyr.

Dad: Ddudish i fod y poets ma i gyd yn aliens, yn do Dil?

Mam: Do!
LLAIS: [Mewn cynghanedd plis!]
Teimlo’n rhwystredig? Methu cael digon?
Bron â marw eisiau mwy o Bron Meirion?
Yn awchu? Yn ysu? Dewch draw y tro nesaf …

Dad: Paid ti a dechra!!!!!

Llais: OK

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o