Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Bron Meirion - Llion Jones - 1

Tudur Owen

Available for over a year

Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones. Rhan 1 Mwynwen: Dad, pam da ni’n ista mewn cae yn Sir Fon am bump o’r gloch y bora?! Dilwyn: Ma’i braidd yn gynnar i dojio. Dad: Ych-a-fi! Dwi’m isho clywed y gair yna byth eto! Mwynwen: Ond pam da ni yma ta? O’n i’n cal noson dda yn Peep tan i chi nol fi. Mam: A fina hefyd! Felly ty’d ‘laen – pam da ni yma? Ti’m di bod yn effro am bump o’r gloch y bore ers i chdi feddwl bo fi’n cael affer efo’r dyn llefrith na o’r Eidal! Mwynwen: Mr Malipoteli? O’n i’n licio fo! Dad: Hwnw! Nes i erioed drystio’r boi ‘na! Eniwe, heddiw ydy y Summer Solstice, diwrnod hira’r flwyddyn, felly o’n i’n meddwl bysa hi’n braf gwneud y mwyaf ohono fo, hefo fy nheulu annwyl yn un o lefydd mwyaf pwydferth Cymru! Dilwyn: Ond da ni yn Sir Fon! Ma fama’n dump! Dad: Taw Dilwyn! Dump wir! Bryn Celli Ddu ydy fama – Stonehenge Cymru! A bob blwyddyn ma na gannoedd o bobol “ysbrydol” yn dod yma i weld y wawr yn codi. Dilwyn: Pobol ysbrydol?! Be, fatha ghosts? Cool, swn i’n lyfio gweld ghost! Dad: Naci siwr. Pobol sy’n deallt y cysylltiad rhwng dyn a’r byd o’n cwmpas ni! Pobol sy’n chwilio am ateb i gwestiynnau mawr bywyd ym myd natur! Dilwyn: Oh! Bagia chwain! Hippies! Mwynwen: Yyyyy, fedrai’m diodda hippies. Ma nhw mor fudur. Dilwyn: O’n i’n meddwl bo chdi’n licio dynion budr? Mwynwen: Dwi yn – ond dim os ydyn nhw angen wash. Dad: Well ia, ok ta, hippies. Ond ma na gannoedd ohonyn nhw am fod yma! So dwi di cael syniad am neud chydig o bres allan ohonyn nhw. Mam: Ond ma Mwynwen newydd ddeud – dydy hi ddim yn licio hippies! Dad: Naci, dim dyna o’n i’n feddwl. Dwi am fflogio t-shirts iddyn nhw! Ma gen i 10 bocs! Souvenir o’i amser yn Stonehenge Cymru. Dilwyn: Ma nw’n deud fod Stonehenge di cal ei godi gan Aliens! Mam: Paid a bod yn wirion, does na’m ffasiwn beth ag Aliens. Dilwyn: [SFX Dilwyn yn agor bocsys]. Errrr dad – be ddudsoch chi oedd enw’r lle ma eto? Dad: Bryn Celli Ddu Dilwyn: Dwi’n meddwl fod y printar di neud mistêc hefo’r t-shirts. Ma di rhoi “Bryn Ceillia Du” arnyn nhw! Mwynwen: W, dwi’n meddwl mod i’n i nabod o! Mam: O mam bach! Be da ni am neud hefo 10 o focsys fedra ni ddim werthu?! Mwynwen: Nai werthu nhw i Bryn! Dad: [mewn ofn] Dil - be di’r thing mawr crwn ‘na yn yr awyr? Mam: Yr haul yn codi di hwna’r lembo! Dwi’n gwbod bo chdi fel arfar yn codi ar ol hanner dydd ond siawns bo chdi di gweld y wawr o’r blaen! MIWSIC: 2001 A Space Odyssey + SFX Llong Ofod Dad: [mewn ofn] Na Dil... dim yr haul... y peth mawr ‘na sy’n hedfan drwy’r awyr amdana ni! Ma’n edrych fatha space ship! Mam: O mam bach! Ti’n iawn!! Falla ma’ Aliens nath adeiladu fama! Dilwyn: Well, aliens neu planning regs dodgy Sir Fon! Mam: O dad! Dwi ofn! Dad: Rhedwch! LLAIS: Ai Aliens wnaeth adeiladu Bryn Celli Ddu? Beth ma nhw am ei wneud hefo’r teulu bach? Fydda nhw’n defnyddio aelod o’r teulu ar gyfer arbrofion arallfydol? Mwynwen: ww, gobeithio! LLAIS: Ymunwch a ni ar ol y gân i gael gwybod y cyfan!

Programme Website
More episodes