Bron Meirion - Llion Jones - 1
Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones.
Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones.
Rhan 1
Mwynwen: Dad, pam da ni’n ista mewn cae yn Sir Fon am bump o’r gloch y bora?!
Dilwyn: Ma’i braidd yn gynnar i dojio.
Dad: Ych-a-fi! Dwi’m isho clywed y gair yna byth eto!
Mwynwen: Ond pam da ni yma ta? O’n i’n cal noson dda yn Peep tan i chi nol fi.
Mam: A fina hefyd! Felly ty’d ‘laen – pam da ni yma? Ti’m di bod yn effro am bump o’r gloch y bore ers i chdi feddwl bo fi’n cael affer efo’r dyn llefrith na o’r Eidal!
Mwynwen: Mr Malipoteli? O’n i’n licio fo!
Dad: Hwnw! Nes i erioed drystio’r boi ‘na! Eniwe, heddiw ydy y Summer Solstice, diwrnod hira’r flwyddyn, felly o’n i’n meddwl bysa hi’n braf gwneud y mwyaf ohono fo, hefo fy nheulu annwyl yn un o lefydd mwyaf pwydferth Cymru!
Dilwyn: Ond da ni yn Sir Fon! Ma fama’n dump!
Dad: Taw Dilwyn! Dump wir! Bryn Celli Ddu ydy fama – Stonehenge Cymru! A bob blwyddyn ma na gannoedd o bobol “ysbrydol” yn dod yma i weld y wawr yn codi.
Dilwyn: Pobol ysbrydol?! Be, fatha ghosts? Cool, swn i’n lyfio gweld ghost!
Dad: Naci siwr. Pobol sy’n deallt y cysylltiad rhwng dyn a’r byd o’n cwmpas ni! Pobol sy’n chwilio am ateb i gwestiynnau mawr bywyd ym myd natur!
Dilwyn: Oh! Bagia chwain! Hippies!
Mwynwen: Yyyyy, fedrai’m diodda hippies. Ma nhw mor fudur.
Dilwyn: O’n i’n meddwl bo chdi’n licio dynion budr?
Mwynwen: Dwi yn – ond dim os ydyn nhw angen wash.
Dad: Well ia, ok ta, hippies. Ond ma na gannoedd ohonyn nhw am fod yma! So dwi di cael syniad am neud chydig o bres allan ohonyn nhw.
Mam: Ond ma Mwynwen newydd ddeud – dydy hi ddim yn licio hippies!
Dad: Naci, dim dyna o’n i’n feddwl. Dwi am fflogio t-shirts iddyn nhw! Ma gen i 10 bocs! Souvenir o’i amser yn Stonehenge Cymru.
Dilwyn: Ma nw’n deud fod Stonehenge di cal ei godi gan Aliens!
Mam: Paid a bod yn wirion, does na’m ffasiwn beth ag Aliens.
Dilwyn: [SFX Dilwyn yn agor bocsys]. Errrr dad – be ddudsoch chi oedd enw’r lle ma eto?
Dad: Bryn Celli Ddu
Dilwyn: Dwi’n meddwl fod y printar di neud mistêc hefo’r t-shirts. Ma di rhoi “Bryn Ceillia Du” arnyn nhw!
Mwynwen: W, dwi’n meddwl mod i’n i nabod o!
Mam: O mam bach! Be da ni am neud hefo 10 o focsys fedra ni ddim werthu?!
Mwynwen: Nai werthu nhw i Bryn!
Dad: [mewn ofn] Dil - be di’r thing mawr crwn ‘na yn yr awyr?
Mam: Yr haul yn codi di hwna’r lembo! Dwi’n gwbod bo chdi fel arfar yn codi ar ol hanner dydd ond siawns bo chdi di gweld y wawr o’r blaen!
MIWSIC: 2001 A Space Odyssey + SFX Llong Ofod
Dad: [mewn ofn] Na Dil... dim yr haul... y peth mawr ‘na sy’n hedfan drwy’r awyr amdana ni! Ma’n edrych fatha space ship!
Mam: O mam bach! Ti’n iawn!! Falla ma’ Aliens nath adeiladu fama!
Dilwyn: Well, aliens neu planning regs dodgy Sir Fon!
Mam: O dad! Dwi ofn!
Dad: Rhedwch!
LLAIS: Ai Aliens wnaeth adeiladu Bryn Celli Ddu? Beth ma nhw am ei wneud hefo’r teulu bach? Fydda nhw’n defnyddio aelod o’r teulu ar gyfer arbrofion arallfydol?
Mwynwen: ww, gobeithio!
LLAIS: Ymunwch a ni ar ol y gân i gael gwybod y cyfan!
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 27/06/2014
![]()
Bron Meirion - Llion Jones - 2
Hyd: 01:58
Mwy o glipiau Tudur Owen
![]()
Y Dorf Yn Ffrainc
Hyd: 01:18
![]()
Pa iaith 'dach chi'n ei siarad efo cŵn?
Hyd: 01:03






