Episode details

Available for over a year
Bron Meirion wedi ei gyd-sgwennu gan y Bardd Preswyl Llion Jones. Rhan 2 RHAN MWYNWEN + LLAIS MEWN CYNGHANEDD Dad: Pwy fysa wedi meddwl! Mwynwen yn cael ei abductio gan aliens! Mam: Well, fyswn i ddim yn ei alw fo’n abductio! Nath hi neidio mewn i’r llong ofod yn gweiddi “take me”! Dilwyn: Lle da chi’n meddwl ma nhw di mynd a hi? Rwla hollol allan o’r ffordd fatha Area 51? Neu Corris? Dad: Dwn im. Ond ma nhw di dychryn yr hippies i gyd, a di ‘ngadal i hefo 10 bocs o t-shirts fedrai’m werthu! Damia nhw! SFX drws yn agor Mwynwen: Haia bawb! Oes ‘na bobol? Fi Mwynwen sy’ adre’n ôl. Mam: Mwynwen! Lle ti di bod! Dwi di bod yn poeni amdana chdi! Nath yr aliens dy drin di’n iawn? Mwynwen: Do, wir yr, heb fawr o strach, dau alien heb eu deliach, nhw heb os ‘di’r gorau’n bod ar gyfer mynd i’r gofod a’u roced fendigedig o ffab, ac mor hiiiiir ei phig. Dilwyn: Natha nhw neud experiments arna chdi? Mwynwen: Do, fy mhrobio am rywbeth. Pa ots? Wnes i joio’r peth. Joio a’r probio’n parhau a’r miri’n fawr am oriau. Dilwyn: Pam ti’n siarad yn funny? Mwynwen: Yn rhyfedd? Be’ ti’n feddwl? Mae’n hollol naturiol… Tŵl! Mam: O! Be ma nhw di neud i chdi Mwynwen fach! Ydyn nhw wedi cal effaith ar dy frên di? Dilwyn: Pa frên? Mwynwen: O Dilwyn taw â’r dwli! – Ond mae’n od y mae ‘na egni o’r aliens sy’n rheoli rhyw sut fy holl sgwrsio i. … Mae’r cyfan mewn cynghanedd Dad: Be? Siarad mewn cynghanedd?! Mam: Fatha yn y Steddfod? Mwynwen: Yn union, mewn cynghanedd, yr hen ddweud ar newydd wedd, synau llên sy’n swyno’n llwyr ond synau sy’n gwneud synnwyr. Dad: Ddudish i fod y poets ma i gyd yn aliens, yn do Dil? Mam: Do! LLAIS: [Mewn cynghanedd plis!] Teimlo’n rhwystredig? Methu cael digon? Bron â marw eisiau mwy o Bron Meirion? Yn awchu? Yn ysu? Dewch draw y tro nesaf … Dad: Paid ti a dechra!!!!! Llais: OK
Programme Website