Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwanas Fawr a Corris Uchaf

Iolo Williams y naturiaethwr sy'n mynd â ni ar daith drwy dirlun Cymru gan ddilyn hen ffordd Rufeinig Sarn Helen. Iolo Williams follows the trail of the Sarn Helen Roman road.

Iolo Williams sydd yn cyd-gerdded rhannau o’r hen lôn Rufeinig, Sarn Helen gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn.
Mae Rhys wedi dewis 3 tamaid o Sarn Helen - mewn 3 ardal sydd yn mynd â ni o’r Brithdir ger Dolgellau i lawr tuag at Pennal ger Machynlleth.

Mae'r daith yn datgelu sut mae tirlun Cymru wedi newid dros y canrifoedd.

Heddiw mae'r ddau yn cyd-gerdded gyda Dr Cathryn Charnell-White o Brifysgol Aberystwyth a Sam Robinson, gwneuthurwr seidr, bardd a cherddor. Mae o hefyd wedi gweithio fel bugail ym Mro Ddyfi. Mae'r daith yn mynd â ni o Cross Foxes i Gwanas Fawr a draw tua Chorris Uchaf.

Mae Iolo hefyd yn sôn sut mae newid hinsawdd wedi effeithio'r ardaloedd hardd a bregus yma.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Tach 202516:00

Darllediad

  • Sul 30 Tach 202516:00