Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iolo Williams y naturiaethwr sy'n mynd â ni ar daith drwy dirlun Cymru gan ddilyn hen ffordd Rufeinig Sarn Helen. Iolo Williams follows the trail of the Sarn Helen Roman road.

Iolo Williams sydd yn cyd-gerdded rhannau o’r hen lôn Rufeinig, Sarn Helen gyda’r archeolegydd Rhys Mwyn.
Mae'r daith heddiw yn mynd â ni ar hyd Sarn Helen tuag at Gefn Caer, Pennal.

Yn cyd-gerdded gyda Iolo a Rhys mae Math Williams, daearegwr, Manon Steffan Ross, awdures a dramodydd sydd â'i gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal yma ac Alice Briggs sydd yn artist a churadur sydd yn gweithio gyda phrosiect Tir Canol.

Mae Iolo hefyd yn sôn sut mae amser wedi newid y tirlun hardd yma.

Mae Tir Canol yn brosiect cymuned sy’n dylunio ac yn darparu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer natur a phobl drwy eu defnydd o’r tir a môr.

Maen nhw'n defnyddio Afon Dyfi yn y gogledd ac Afon Rheidol yn y de fel eu ffiniau dychmygol daearyddol, naturiol.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 7 Rhag 202516:00

Darllediad

  • Sul 7 Rhag 202516:00