
Caer Brithdir
Iolo Williams y naturiaethwr sy'n mynd â ni ar daith drwy dirlun Cymru gan ddilyn hen ffordd Rufeinig Sarn Helen. Iolo Williams follows the trail of the Sarn Helen Roman road.
Iolo Williams sydd yn mynd â ni ar daith ar hyd rhannau o'r hen ffordd Rufeinig, Sarn Helen. Mae'n cael ei dywys gan yr archeolegwr Rhys Mwyn ac yn cael cwmni Dr Leona Huey, Darlithydd Treftadaeth ym Mhrifysgol Bangor, Manon Prysor sydd yn storiwraig ac yn rhedeg Theatr Prysor, Bethan Gwanas a Carys Jones sydd yn ffermio’r tir.
Yn y rhaglen yma mae'r daith yn mynd â ni i Gaer Rufeinig – Caer Brithdir ac maent yn ymweld ag eglwys arbennig iawn Eglwys Sant Marc, sydd nepell o Sarn Helen. Mae'r daith yn datgelu sut mae tirlun Cymru wedi newid dros y canrifoedd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
![]()
Gwlân llachar i'r Rhufeiniaid.
Hyd: 04:15
Darllediad
- Sul 23 Tach 202516:00BBC Radio Cymru
