Penodi Rhodri Talfan Davies yn gyfarwyddwr cyffredinol dros dro y BBC

Rhodri Talfan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri Talfan Davies wedi treulio cyfnodau fel pennaeth BBC Cymru ac fel cyfarwyddwr y cenhedloedd

  • Cyhoeddwyd

Mae bwrdd y BBC wedi penodi Rhodri Talfan Davies yn gyfarwyddwr cyffredinol dros dro.

O ddechrau Ebrill, fe fydd Mr Talfan Davies yn ymgymryd â'r rôl tra bod y gorfforaeth yn mynd ati i benodi olynydd parhaol i Tim Davie.

Fe gyhoeddodd Mr Davie 'nôl ym mis Tachwedd ei fod yn bwriadu ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth o'r ffordd wnaeth rhaglen Panorama olygu araith gan yr arlywydd Donald Trump.

Mae Rhodri Talfan Davies wedi treulio cyfnodau fel cyfarwyddwr y cenhedloedd ac fel cyfarwyddwr BBC Cymru Wales.

Bydd yn ymuno â bwrdd y BBC ar 1 Chwefror fel cyfarwyddwr gweithredol cyn dechrau fel cyfarwyddwr cyffredinol ar 3 Ebrill.

Mewn neges at staff y BBC, dywedodd cadeirydd y gorfforaeth, Samir Shah fod Mr Talfan Davies yn "arweinydd gwych sy'n cynnig profiad golygyddol sylweddol ac ymroddiad angerddol i gynrychioli cymunedau ar draws y DU".

Yn ogystal, fe fydd Rhuanedd Richards yn parhau yn gyfarwyddwr dros dro'r cenhedloedd yn y BBC drwy'r cyfnod yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig