Bachgen chwech oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy

Cerbydau'r heddlu yn Llanfairfechan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn y dref brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen chwech oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanfairfechan, Sir Conwy ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ychydig ar ôl 17:00 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.

Mae dyn 39 oed wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.

Cerbydau'r heddlu yn Llanfairfechan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o ffyrdd yn ardal Ffordd Pen-y-Bryn a Ffordd Bryn ar gau am gyfnod tra bod y gwasanaethau brys yn delio â'r digwyddiad

Mae'r teulu'r bachgen yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol wedi'r digwyddiad.

Dywedodd y ditectif arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru fod eu "meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r bachgen ifanc yn ystod y cyfnod anodd hwn."

"Mae ymchwiliad ar waith i geisio deall yr union amgylchiadau arweiniodd at y gwrthdrawiad yma," meddai.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig