'Paid â rhuthro galar' - y canwr Steffan Lloyd Owen, ddegawd ers colli ei fam

Yn ôl Steffan, mae'n bwysig "teimlo popeth a chymryd dy amser i deimlo popeth"
- Cyhoeddwyd
Mae'r bariton o Fôn, Steffan Lloyd Owen wedi dweud ei fod eisiau "helpu pobl eraill sy'n delio â galar", a hynny ddegawd ers colli ei fam, Susan.
Bu farw ei fam yn dilyn damwain ffordd yn 2016, ac yn siarad am ei cholli am y tro cyntaf ar ei delerau ei hun ers hynny, mae'n gobeithio y gall ei brofiad fod o fudd i eraill.
Daw ar ôl iddo rannu fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn pwysleisio "pwysigrwydd siarad am y person sydd wedi marw" a chofio'r amseroedd da, gan ddweud mai'r "dyddiau gorau yw'r rhai pan dwi'n siarad am Mam a chofio pa mor arbennig oedd hi".
Wrth siarad â Cymru Fyw, anogodd bobl i deimlo eu galar yn eu ffordd eu hunain: "Teimla bopeth a chymra dy amser i deimlo popeth - paid â rhuthro galar."
'Ddim eisiau cofio'r dyddiad fel y diwrnod bu Mam farw'
Mae Steffan, a oedd yn ei arddegau pan fu farw ei fam, yn dweud ei fod wedi teimlo pwysau dros y blynyddoedd i nodi'r dyddiad bob blwyddyn.
"Yn lle cael dathlu ei bywyd, o'n i'n cael fy atgoffa mewn ffordd o'r hyn oedd gen i ddim mwy," meddai.
Wrth agosáu at 10 mlynedd ers marwolaeth ei fam, penderfynodd wneud rhywbeth gwahanol.
"O'n i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol a rhoi spin positif ar y diwrnod.
"O'n i eisiau siarad am alar, oherwydd dwi'n teimlo mai'r dyddiau gorau dwi'n cael ydy'r dyddiau dwi'n siarad am Mam fwyaf."

Steffan, ar y chwith, gyda'i fam, ei dad a'i frawd
Mae'n credu bod pobl yn aml yn osgoi siarad am rywun sydd wedi marw oherwydd eu bod yn ofni y bydd hynny'n gwneud pethau'n "awkward" neu'n peri gofid.
Ond mae Steffan yn dweud "bod siarad am alar yn angenrheidiol, i allu ddod i delerau efo petha'".
"Dwi'n teimlo bod pobl yn tueddu i osgoi siarad am y peth efo fi," meddai.
"Dwi eisiau siarad amdano fo ar fy nhermau i a dangos i chi sut dwi'n delio 'efo fo, fel bo' hynny yn y pen draw yn gallu bod o help i bobl eraill i ddeall nad oes eisiau bod ofn galar, nac ofn y teimladau dwfn sy'n dod efo hynny."
'Galar byth yn diflannu'
Dywedodd Steffan bod ei berthynas â galar "wedi newid loads" dros y cyfnod.
Ar y dechrau, meddai, roedd yn teimlo bod disgwyl iddo "gael dros hwn" a symud ymlaen.
Ond bellach mae'n derbyn na fydd y teimladau'n diflannu yn llwyr.
"Ma' pethau wedi gwella lot. Ond nid y galar sydd wedi mynd yn llai – fi sydd wedi tyfu o gwmpas y galar.
"Fydd y galar yna ddim byth yn mynd."
Derbyn y bydd yn cario'r golled gydol ei oes oedd un o'r pethau pwysicaf iddo eu dysgu, meddai.
"Os oes unrhyw ffordd fedra i helpu rhywun cyn iddyn nhw fynd drwyddo fo, neu wrth iddyn nhw fynd drwyddo fo, dyna dwi eisiau ei wneud."

Yn ôl Steffan, roedd yn rhaid iddo a'i frawd "orfod tyfu fyny'n sydyn" ar ôl colli eu mam
Y tu hwnt i'w fywyd personol, dywedodd bod ei brofiad wedi newid y ffordd mae'n deall emosiwn fel canwr opera.
Cyn hynny roedd yn gallu canu pethau trist heb allu uniaethu â nhw yn yr un ffordd, meddai.
"Ers colli Mam, ma' pob cân trist, neu gân am golli neu hiraeth, dwi'n gwybod sut i tapio fewn iddo fo."
"Dwi'n meddwl fy mod i'n artist gwell oherwydd dwi'n gwybod pob teimlad. Dwi wedi byw pob un teimlad.
"Ond ar ba bris?"

Yn ôl Steffan, mae "wastad am deimlo'n lwcus" ei fod wedi cael 20 mlynedd hefo'i fam
Yn ôl Steffan, mae'n bwysig ceisio edrych am y pethau positif sydd wedi dod o'i brofiad.
"Un peth dwi eisiau yw yn amlwg gweld yr elfennau positif mewn galar.
"Yn amlwg, bydde cael Mam yma yn outweighing unrhywbeth positif am alar, ond rhaid i ti feddwl am y positifau neu fyddi di ddim yn ymdopi."
'Lwcus cael 20 mlynedd gyda hi'
Mae Steffan bellach yn dad ei hun, sydd wedi rhoi persbectif newydd iddo.
"Mae rhywbeth sydd wedi bod yn gysur i fi ers bod yn dad ydy fy mod i wedi profi sut beth ydy caru plentyn," meddai.
"Mae o wedi dod yn rhyw fath o gysur i fi wybod, 'dyna oedd Mam yn ei deimlo tuag ata i'."
Dywedodd nad oedd wedi cael y cyfle i ddweud wrth ei fam am y tro olaf faint roedd yn ei charu, ond bod deall cariad rhiant tuag at blentyn yn ei helpu.
"Mae gen i'r unexpressed love 'ma i roi iddi hi, oherwydd ges i byth y cyfle i ddweud wrthi hi am y tro ola'.
"Ond mae'n gysur i fi wybod bod Mam yn fy ngharu i fel hyn hefyd.
"Felly mae'n ocê."
"Ma' galar yna oherwydd wnaethon ni garu rhywun," meddai.
"Mae'r ffaith ein bod ni wedi bod mor lwcus o garu rhywun, a rhywun oedd yn ein caru ni mor ddyfn, yn rhywbeth dwi'n meddwl amdano.
"Ges i 'mond 20 mlynedd efo Mam. Dwi wedi byw 10 mlynedd hebddi hi rŵan.
"Dwi wastad am deimlo'n lwcus mod i wedi cael yr 20 mlynedd yna."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.