O ddwy oed i ddeunaw: Ysgol Sul fyrlymus Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
"Defod, ar y Nadolig, yw fod
Plant y festri, y bychain,
Yn cyflwyno yn ein capel ni
Ddrama y geni"
Dyna eiriau cyfarwydd Gwyn Thomas o'i gerdd Drama'r Nadolig. Mae'n olygfa sydd yr un mor gyfarwydd i ni â stori'r Nadolig ei hun – plant yr ysgol Sul yn y set fawr yn eu gwisgoedd lliwgar a'u tinsel.
Ond gyda niferoedd yn gostwng bob blwyddyn, beth yw dyfodol ysgolion Sul yng Nghymru?
Eleni fe aeth Cymru Fyw i weld paratoadau un Ysgol Sul yn Ynys Môn, sef Ysgol Sul Capel Ifan, Llannerchymedd – sydd, yn ôl aelodau'r capel, yn un o ddim ond pump Ysgol Sul sydd ar ôl ar yr ynys.
Teg dweud ei bod hi'n Ysgol Sul fyrlymus, gyda 25 o blant yn y cyngerdd eleni.
Linda Jones sydd wrth y llyw yno, ac mae'n ymfalchïo yn y plant a'r bobl ifanc a'u parodrwydd i gymryd rhan. Mae ystod oedran o ddyflwydd i 18 ymysg y rhai sy'n perfformio, gydag ambell un yn dychwelyd o'r brifysgol i gymryd rhan.
Dyma i chi gip ar y gwaith da maen nhw'n ei wneud yno.
Cip ar berfformiad Ysgol Sul Capel Ifan, Llannerchymedd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2025
