Rhybudd bod ffermwyr yn 'dal i redeg ar golled' er cynnydd pris llaeth

Trwyn buwch
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermwyr llaeth Cymru'n dweud fod y gost o gynhyrchu llaeth yn uwch na'r pris y maen nhw'n ei dderbyn amdano

GanElen Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwyr llaeth Cymru'n dweud eu bod yn "dal i redeg ar golled", er gwaetha'r cynnydd diweddar ym mhris eu llaeth.

Yn ôl is-lywydd Sioe Laeth Cymru, Dyfrig Griffiths, er bod y swm ar gyfer litr o laeth wedi codi yn ddiweddar, mae costau cynhyrchu hefyd wedi mynd yn uwch i ffermwyr.

Mae undebau amaeth yn dweud fod angen sicrwydd, ac yn galw am strategaeth hirdymor "i wireddu potensial sylweddol sector llaeth Cymru".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig "ystod o gymorth" ar gyfer ffermydd llaeth "i wella eu perfformiad ariannol ac amgylcheddol".

Dyfrig Griffiths yn y sied wartheg ar ei fferm yn Llangoedmor, Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Dyfrig Griffiths yw is-lywydd Sioe Laeth Cymru

Wrth ddisgrifio'r flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Dyfrig Griffiths, sy'n ffermio yn Llangoedmor ger Aberteifi, nad oedd wedi gweld y sefyllfa "mor galed" o ran prisiau llaeth ers bron i 10 mlynedd.

Y rhan fwyaf o'r flwyddyn, mae'n dweud iddo dderbyn 30 ceiniog y litr am ei laeth, er bod y gost o gynhyrchu wedi bod yn nes at 38c y litr.

"Mae bob ceiniog yn rhyw £4,000 i ni ar y ffarm 'ma," meddai.

"Colled ni wedi bod yn gwneud drwy'r haf."

Ym mis Medi, fe dderbyniodd 3c y litr yn ychwanegol am ei laeth, ac yna 6c ychwanegol ym mis Hydref, gan olygu ei fod bellach yn derbyn 39c y litr am ei laeth.

"Mae dal yn anodd ond ni'n gallu gweld golau," meddai.

"Mae 9c o godiad yn godiad sylweddol. Mae'n rhaid i ni fod yn ddiolchgar am hynny, ond bydden i'n dweud, dyw e ddim yn ddigon.

"Pan gwympodd llaeth rhyw 15 ceiniog y litr, gath ddim hwnna ei basio ymlaen i'r cwsmer o gwbl."

'Ni'n dal i redeg ar golled'

Erbyn hyn, mae'n dweud fod ei gostau cynhyrchu tua 40c y litr, ac nad yw'r 39c y mae'n ei dderbyn am ei laeth felly yn dal i fod yn ddigon.

"Bydden i'n dweud bod ein costau ni wedi mynd lan rhyw 3 ceiniog yn yr haf gyda phris tanwydd a fertiliser, mae'r costau yn cadw mynd lan a mae'r costau i gynhyrchu llaeth yn mynd lan…

"Ar y funud, ni'n dal i redeg ar golled."

Christine Lillywhite (chwith) , Hugh Bevan (canol) a Sara Smith (dde) yn Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Yn Aberteifi, doedd (o'r chwith) Christine, Hugh na Sara yn torri yn ôl ar laeth oherwydd y gost

Tu hwnt i glôs y ffarm, er bod prisiau llaeth yn fwy sefydlog i gwsmeriaid, mae'r pris wedi codi iddyn nhw hefyd dros y blynyddoedd.

Yn ôl ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar gyfartaledd, mae pris pedwar peint o laeth cyflawn yn costio £1.66.

Mae hynny ychydig dros 50% yn fwy na'r pris cyfartalog yn 2018, pan oedd y pris cyfartalog yn £1.10.

Yn defnyddio tua chwe pheint o laeth yr wythnos, dywedodd Christine Lillywhite o Aberteifi nad oedd pris llaeth yn dylanwadu ar ei defnydd ohono.

"Rwy'n hoffi llaeth yn fy nhe, fy nghoffi ac os rwy'n gwneud saws, rwy'n dal i'w ddefnyddio", meddai.

Yr un oedd teimladau Hugh Bevan o Ddinas, Sir Benfro. Yn yfed tua thri pheint o laeth yr wythnos, dywedodd: "Yn anffodus, rwy'n un o'r bobl 'na sydd braidd yn edrych ar bris pethau. Mewn i'r bag, mewn i'r bag."

Wrth ystyried fod pris pedwar peint o laeth cyflawn wedi codi tua 56c ers 2018, dywedodd Sara Smith o Grughywel bod hynny "ddim yn ymddangos yn ffôl o ystyried chwyddiant".

"Rwy'n gallu deall os oes gyda chi dri neu bedwar plentyn, mae e'n mynd i wneud gwahaniaeth ondyw e?"

Enfys Wyse, perchennog Tŷ Te Cenarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Enfys Wyse wedi gweld cynnydd o £35 yr wythnos mewn pris llaeth dros y 10 mlynedd ddiwethaf

Un sydd wedi gweld gwahaniaeth ym mhris llaeth dros y blynyddoedd yw Enfys Wyse, perchennog Tŷ Te Cenarth.

"Yn y 10 mlynedd ddiwethaf, mae [llaeth] wedi mynd lan £35 yr wythnos," meddai.

"Yn yr haf ni'n mynd trwyddo 'byti 10 i 12 o'r two litres. A wedyn amser ma' hi'n fwy tawel, ni'n mynd trwyddo 'byti pump i chwech wedyn."

Wrth gyfeirio at y gost, dywedodd: "Mae'n rhaid i ni dderbyn e achos mae e'n rywbeth sydd eisiau bob dydd…

"Bob blwyddyn ni'n trial rhoi y pris lan bach ond peidio rhoi fe lan gormod neu fydd pobl ddim yn dod nôl.

"Nhw yw cwsmeriaid fi trwy'r flwyddyn, nhw ni moyn gweld yn dod yn ôl trwy'r flwyddyn so ni'n trial peidio rhoi fe lan gormod."

Gwartheg ar fferm Tafarn y Bugail yn Llangoedmor
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ffermwyr yn poeni am ragor o ansefydlogrwydd gyda phrisiau llaeth

Nôl ar y fferm yn Llangoedmor, poeni mae Dyfrig Griffiths y bydd y pris mae ffermwyr yn derbyn am eu llaeth yn gostwng eto.

"Fi'n falch bod ni wedi cael haf sych, achos mae hwnna wedi gostwng production y wlad, a na'r unig rheswm ni wedi cael codiadau yr Hydref 'ma, o achos bod y wlad yn dod nôl mewn i balans", meddai.

"Gwaetha'r modd, fi'n credu bod production yn codi nawr 'to ar ôl i'r glaw 'ma ddod. Tyfiant porfa sy'n rheoli faint o laeth sydd gyda ni."

Wrth i'r gaeaf agosáu – adeg o'r flwyddyn pan all costau fod ar eu huchaf i ffermwyr – mae NFU Cymru yn dweud fod "pryderon o'r newydd" bod elw ffermwyr yn cael ei "wasgu ymhellach".

Maent yn annog Llywodraeth Cymru i helpu i sicrhau sefydlogrwydd i'r sector, sydd werth £929m i'r economi.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn dweud bod angen strategaeth hirdymor glir i Gymru "er mwyn datblygu ei diwydiant llaeth, a hynny er mwyn goresgyn anwadalrwydd prisiau llaeth a chostau mewnbwn".

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau penodol sy'n wynebu ffermwyr llaeth, sy'n deillio o orgyflenwad byd-eang.

"Rydym wedi ymrwymo i'r sector llaeth yng Nghymru, ac, drwy ein cynlluniau amaethyddol, rydym yn cynnig ystod o gymorth sy'n addas ar gyfer ffermydd llaeth i wella eu perfformiad ariannol ac amgylcheddol.

"Mae ein hymrwymiad ariannu o £1bn yn rhoi sicrwydd i ffermwyr, ochr yn ochr â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sydd ar gael i bob ffermwr, er mwyn sicrhau dyfodol cryf a bywiog iddynt."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig