'Mae Aberfan wedi siapio ni fel y bobl rydyn ni heddiw'

Disgyblion o ardal Aberfan sydd yn chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymru gofio 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, mae rhai o'r genhedlaeth ifanc yn yr ardal wedi bod yn sôn am bwysigrwydd y cofio iddyn nhw.
Cafodd 116 o blant a 28 o oedolion eu lladd wrth i domen lo lithro ar ben Ysgol Gynradd Pantglas, a nifer o dai yn y pentref, ar 21 Hydref 1966.
I'r rheiny sydd â chysylltiad teuluol uniongyrchol â'r trychineb, mae sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd yn allweddol.
Mae Alanna yn ddisgybl yn chweched dosbarth Ysgol Gyfun Rhydywaun, sy'n gwasanaethu ardal Merthyr a Chwm Cynon, ac yn dod o Aberfan.
"Mae'n rhywbeth mor ofnadwy, a gan bod teulu fi wedi'i effeithio ganddo fe, pan o'n i'n tyfu lan o'n i'n ymwybodol iawn ohono fe a'r effaith mae wedi'i gael ar bobl."

Fe gollodd tad-cu Alanna ei chwaer yn y drychineb
Roedd aelodau ei theulu yn ddisgyblion yn Ysgol Pantglas yn 1966.
"Oedd chwaer tad-cu wedi marw, oedd hi'n tua wyth oed dwi'n meddwl. Roedd e'n ddiwrnod arferol.
"Roedd tad-cu yn cofio'r dydd i gyd achos oedd e'n sal, ac oedd e wedi mynd yno a gweld popeth, ac oedd e wedi rhedeg adre yn ofnus."
'Mae pawb angen deall'
"I fi dwi'n credu ei fod yn hynod o bwysig ein bod ni'n cofio beth oedd wedi digwydd yn y trychineb, a sut mae'n dal i effeithio ar deuluoedd sy'n byw yn y pentre fel fi", meddai Oliver sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Rhydywaun.
"Doedd e ddim yn cael ei drafod yn aml rhwng teulu fi, oherwydd roedd mor ofnadwy."
'Daeth â hi nôl yn fyw': Portreadau o'r plant ddaeth â chymorth i deuluoedd Aberfan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Aberfan: Atgofion y gweinidog a'r disgybl ysgol fu yno
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r disgyblion i gyd yn pwysleisio pa mor bwysig oedd y cofio pan oedden nhw yn Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug, sydd ym mhentref Aberfan.
"O'dd e'n peth enfawr i'r ysgol", meddai Evan sy'n byw ym Mynwent y Crynwyr, ac un arall sydd â chysylltiad teuluol.
"Roedden ni'n mynd lan bob blwyddyn i le mae'r beddau, ac oedd e'n beth mawr.
"Rwy'n credu oherwydd roedd yr ysgol yn Aberfan, 'oedden ni'n dysgu llawer yn y dosbarth amdano beth ddigwyddodd.
"Oherwydd y gymuned agos sydd yn y lleoliad yna, rwy'n credu roedd yn meddwl mwy i ni."

Mae digwyddiadau 1966 wedi cael effaith ar bobl yr ardal hyd heddiw, meddai Elis
"Mae angen i ni gofio'r pethau yma," meddai un arall o'r disgyblion, Elis.
"Mae wedi siapio ni fel y bobl rydyn ni heddiw."
Mae Cadi yn cytuno, gan bwysleisio'r hyn wnaeth pobl Aberfan i godi'r gymuned ar ôl y digwyddiad.
"Mae'r gwaith maen nhw wedi gwneud i dyfu fe nôl lan yn arbennig, ac mae pawb angen deall beth oedd wedi digwydd."
Yn ôl Nellie, mae angen addysgu pobl ifanc yn fwy: "Mae llawer o blant oedran ni sy' dal ddim yn gwybod... neu'n deall beth oedd wedi digwydd.
"Mae'n drychineb allai fod wedi digwydd i unrhyw un ohonon ni. Mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn deall pa mor ofnadwy oedd e."

Nofel graffeg Jack Lewis, a gafodd ei fagu yn Aberfan
Un o gyn-ddisgyblion ysgolion Rhyd-y-Grug a Rhydywaun yw Jack Lewis. Ar ôl astudio celf yn y brifysgol, mae wedi cyhoeddi nofel graffeg yn olrhain hanes ei deulu ei hun yn Aberfan 60 mlynedd yn ôl.
Roedd ei fodryb Alyson yn ddisgybl yn Ysgol Pantglas ar ddiwrnod y trychineb, modryb arall, Anne, yn ddisgybl yn yr ysgol ramadeg leol a'u tad nhw, Wyndham Lewis, yn löwr, aeth i Aberfan i helpu y bore hwnnw.
"Dwi wedi cyhoeddi'r llyfr yma oherwydd dwi eisiau i bobl wybod am yr hanes - dim anghofio fe", meddai
"I fi, mae graphic novel yn ffordd i blant ddod mewn i'r stori - y lluniau a phopeth - a deall beth sydd wedi digwydd i bobl yr un oed â nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.