'Pryder cynyddol' am ymddygiad honedig gweithwyr ar gynllun peilonau

Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynlluniau Green Gen Cymru i gysylltu fferm wynt arfaethedig ger Llandrindod gydag is orsaf newydd yn Llandyfaelog
- Cyhoeddwyd
Wrth i ymgynghoriad newydd gael ei gynnal ar lwybr peilonau o fferm wynt ym Mhowys, mae tirfeddianwyr wedi cwyno am ymddygiad honedig contractwyr sy'n gwneud gwaith ar ran y cwmni sy'n gyfrifol am y cynlluniau.
Mae Green Gen Cymru yn awyddus i gysylltu fferm wynt arfaethedig yn Nant Mithill ger Llandrindod gydag is orsaf newydd yn Llandyfaelog, pellter o thua 60 milltir.
Yn ôl un ffermwr, doedd contractwyr ddim wedi ystyried bioddiogelwch yn ddigonol er bod ei fferm dan gyfyngiadau TB.
Dywedodd Green Gen Cymru eu bod nhw'n cymryd unrhyw gyhuddiadau am eu timau "o ddifrif" ond bod rhai syrfewyr wedi cysylltu gyda'r heddlu yn sgil pryderon am eu "iechyd a diogelwch".
Dadlau am godi 60 milltir o beilonau yn ardal Dyffryn Tywi
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2025
Ymgyrchwyr yn erbyn codi peilonau yn pwyso eto am roi ceblau dan ddaear
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2025
500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Yn gynharach eleni, aeth 500 o dirfeddianwyr a chwmni Green GEN Cymru i'r Uchel Lys, gan eu cyhuddo o "godi ofn" drwy ymddangos ar ffermydd yn ddirybudd.
Dyfarnodd yr Uchel Lys fod angen i'r cwmni roi mwy o rybudd i ffermwyr a rhoi mwy o ystyriaeth i'r perygl o ledu clefydau anifeiliaid o fferm i fferm.
Ar hyn o bryd, mae Green Gen Cymru yn cynnal chwech o ddigwyddiadau ymgynghori ar lwybr peilonau newydd, ynghyd â defnyddio polion newydd a thanddaearu mewn mannau penodol.
Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir o ganlyniad i'w waith ar yr hyn allai fod yn isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.
Ond mae Newyddion S4C wedi cael gwybod am densiynau rhwng timau syrfeio a thirfeddianwyr ar hyd y llwybr.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi derbyn cwyn am ymosodiad honedig ar dir fferm yn Llanynis ger Llanfair ym Muallt fore Mercher, ble roedd menyw yn honni iddi gael ei gwthio gan ddyn.
Dywedodd y llu fod y digwyddiad wedi cael ei nodi ac fe fydd yn cael ei "neilltuo ar gyfer ymchwiliad".

Mae Green Gen Cymru yn cynnal sawl digwyddiad ymgynghori ar hyd y llwybr peilonau, gan gynnwys y digwyddiad hwn yn Llanymddyfri
Mewn datganiad, dywedodd Green Gen Cymru eu bod yn "parchu hawl pobl i fynegi barn a phrotestio yn heddychlon" a bod yn disgwyl i ymgysylltu "ddigwydd mewn ffordd broffesiynol a pharchus".
"Rydym yn ystyried unrhyw gyhuddiadau ynglŷn ag ymddygiad timau fel mater difrifol, a ni fyddai'n briodol i ni wneud sylw am achosion unigol," meddai'r cwmni.
"Serch hynny, mae yna nifer o ddigwyddiadau difrifol wedi bod yn ystod yr wythnosau diwethaf ble mae ein timau syrfeio wedi cysylltu gyda'r heddlu yn sgil pryderon am eu diogelwch.
"Rydym yn parhau mewn cysylltiad gyda Heddlu Dyfed-Powys. Diogelwch staff, contractwyr, tirfeddianwyr ac aelodau'r cyhoedd yw ein blaenoriaeth."
Contractwyr 'ddim yn fodlon siarad gyda neb'
Roedd un ffermwr o Landeilo eisiau siarad yn ddienw, ac fe gododd bryderon am ddiogelwch yn dilyn ymweliad diweddar.
"Maen nhw'n dod lan heb y gwaith papur cywir a bŵts brwnt. Ni dan [gyfyngiadau] TB a s'dim un surveyor wedi cael gwybod hynny o flaen llaw. Mae e fel 'se nhw ddim yn gwneud effort o gwbl.
"Dy' nhw ddim [yn glanhau eu sgidiau] yn neud e'n iawn a ni wedi codi hwn 'da nhw, ond s'dim ateb 'da nhw."
Gwadodd fod tirfeddianwyr yn ceisio atal y cynlluniau: "Na. Mae'n rhaid i'r gwaith papur a'r insurances a biosecurity fod yn iawn. Er mwyn iddyn nhw fod yn saff, ac i ni fod yn saff."
Dywedodd y ffermwr ei fod yn pryderu am wrthdaro posib gyda chontractwyr wrth i weithgaredd gynyddu.
"Mae pobl yn poeni ambwyti fe. Maen nhw'n mynd lot fwy pushy. Maen nhw yn gofyn os ni'n refuso entry neu obstruction.
"Maen nhw'n bod yn reallypushy ar y foment. So nhw'n fodlon siarad 'da neb.
"Mae'n rhaid i bawb engago gyda'i gilydd. Bydde fe'n lawer rhwyddach i bawb. Mae just eisiau nhw wneud eu gwaith yn iawn."

Yn ôl Owen Llewellyn Jones o Green Gen Cymru, mae'r cwmni yn hyderus bod eu gweithwyr yn dilyn y prosesau cywir
Mynnodd Owen Llewellyn Jones, Rheolwr Materion Allanol Green Gen Cymru, fod y cwmni wedi dysgu gwersi o'r dyfarniad yn yr Uchel Lys.
"Yn sicr, fe fyddwn ni yn edrych mewn i unrhyw achosion penodol i wneud yn siŵr fod y pethau cywir yn dilyn. Ers y judicial review, mae wedi dangos beth sydd angen cael ei wneud ynglŷn â biosecurity a nodi tirfeddianwyr," meddai.
"'Dan ni'n hyderus bo' ni'n dilyn y broses yna. Os mae 'na achlysuron penodol yn dod i Green Gen wrth gwrs byddwn ni yn trin nhw efo'r parch maen nhw'n haeddu oherwydd mae'r rhain yn bobl 'y ni eisiau gweithio gyda am flynyddoedd.
"Mae polisi ni ynglŷn â biosecurity lan ar y wefan. 'Dan ni'n hyderus bo' ni'n dilyn hynny, ac ynglŷn â nodi pryd ni'n trio mynd ar y tir, ni'n hyderus bod ni'n dilyn hynny hefyd.
"Mae'n anodd achos 'dan ni angen mynd ar y tir i wneud yr arolygon... a beth ni eisiau yw gwneud hynny ar voluntary basis. Ni wedi bod yn trio gwneud hynny am flynyddoedd.
"Hyd yn oed, wrth ddefnyddio statutory notices, fydden ni'n tybio fod y bobl sydd yn gwneud hynny yn gwneud hynny yn barchus."

Mae'r ffermwr ac ymgyrchydd Dyfan Walters yn credu fod pryderon yn cynyddu
Dywedodd Dyfan Walters, ffermwr ac ymgyrchydd yn erbyn y peilonau fod pryderon wedi cynyddu dros yr wythnosau diwethaf.
"Os rhywbeth, mae pethau yn mynd yn waeth. Mae shwt gymaint o enghreifftiau bod nhw just yn dod arno â dim parch i'r biosecurity," meddai.
"I fod yn onest, mae'r heddlu, yr wythnos hon, wedi gorfod cael eu galw i ddwy fferm wahanol. Mae'r ymddygiad yn ofnadwy. Dim gyda'r gwaith papur cywir a dim hawl mynd ar y tir.
"Y ffermwyr yn edrych ar beth mae'r staff yma yn gwisgo - dillad oedd ddim yn addas i fynd y fferm, dillad oedd yn frwnt, bŵts oedd yn frwnt. Mae pobl eisiau edrych ar ôl eu ffermydd ac yn disgwyl bach o barch."
Roedd Mr Walters yn derbyn bod yr "hawl yna" iddynt fynd ar y tir "ond fi'n credu bod eisiau iddyn nhw hefyd ddilyn eu polisiau a dyw hynny ddim yn digwydd.
Dywedodd Green Gen Cymru mai'r flaenoriaeth oedd diogelwch "staff, contractwyr, tirfeddianwyr ac aelodau'r cyhoedd."
Mae'r cwmni wedi annog y cyhoedd i fynychu digwyddiadau ymgynghori, gofyn cwestiynau a rhoi adborth cyn bod yr ymgynghoriad yn cau ar 24 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.